Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mehefin 2015

Dirprwy Weinidog yn amlygu rôl menywod mewn amaeth

Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, yn siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i annog menywod i gyflawni eu llawn botensial o fewn diwydiant amaeth Cymru.
 
Bydd y Fforwm Menywod mewn Amaeth a gynhelir heddiw yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llandeilo, yn dwyn ynghyd rai o fenywod y diwydiant ac yn ceisio eu hysbrydoli a’u grymuso i chwarae rhan lawn a gweithgar mewn busnesau amaethyddol ac yn y diwydiant yn ehangach.
 
Mae’r Dirprwy Weinidog yn awyddus i ddenu rhagor o fenywod i mewn i’r diwydiant ac mae hi’n galw ar y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y maes yng Nghymru i wneud yn fawr o’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael iddynt.
 
Bydd hi’n dweud: “Mae menywod yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad busnesau amaethyddol, ac yn aml iawn y nhw sy’n gyfrifol am sbarduno a gweithredu newidiadau positif o fewn y busnes. Rwyf am annog menywod i ddal ati gyda’r gwaith da maen nhw wedi bod yn ei wneud a byddwn yn galw arnynt i geisio cyfleoedd eraill hefyd, er mwyn gwireddu’r weledigaeth rwyf i’n ei rhannu gyda llawer yn y diwydiant; gweledigaeth o ddiwydiant modern, proffesiynol a phroffidiol gyda diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus a mwy o ffocws ar fusnes.
 
“Yn gynharach y mis hwn fe wnes i lansio ymgynghoriad pwysig sy’n nodi’r weledigaeth ar gyfer dyfodol y diwydiant yng Nghymru. Mae ein Fframwaith Strategol ar gyfer Amaethyddiaeth Cymru’n disgrifio’r heriau, y cyfleoedd a’r peryglon rydym yn eu hwynebu ac yn amlinellu sut gallwn ni - Llywodraeth Cymru, sefydliadau yn y diwydiant, ffermwyr a menywod fel chi - greu’r newid hwn trwy gydweithio. Bydd arnom angen arweinyddiaeth gref oddi mewn i’r diwydiant ac mae llawer o fenywod mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig yr arweiniad hwnnw.
 
“Drwy gofleidio’r math o newid positif yr ydym yn ei ragweld, bod yn agored i gyfleoedd newydd a darganfod ffyrdd gwell o weithio, rwy'n hyderus y bydd ein busnesau ni yn ffynnu, ac y bydd y diwydiant ehangach hefyd yn elwa. Fe wnaf i barhau i wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod menywod yn y diwydiant ffermio yn cael yr anogaeth, y mentora, y cymorth a’r canllawiau sydd eu hangen arnynt i’w helpu ar y daith bwysig hon.”
 
Trwy ein rhaglen Cyswllt Ffermio rydyn ni wedi ymrwymo i helpu menywod i ddatblygu eu cryfderau, canfod cyfleoedd a manteisio ar y cyfleoedd hynny.
 
Bydd y digwyddiad heddiw’n cynnwys nifer o weithdai trafod am bynciau gwledig, lle caiff pawb eu hannog i siarad yn gwbl agored am eu persbectif nhw ar swyddogaeth menywod mewn ffermio.
 
Bydd unigolion amlwg o’r sector yn bresennol yn y gynhadledd, gan arwain trafodaethau a gweithdai. Yn eu plith bydd Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol’ Emma Penny, golygydd y Frmers guardian, Llior Radford o Llaeth y Llan a Susie Emmett o Green Shoots Productions.
 

Rhannu |