Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mehefin 2015

Sector Annibynnol yn galw am ddatrusiad tymor hir ar gyfer S4C

Mae TAC, y corff masnach ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, wedi anfon llythyr agored at y Canghellor a'r Ysgrifenyddion Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac ar gyfer Cymru, yn gofyn am gyflwyno mesurau i fod o gymorth i’r Sector gan gynnwys strategaeth tymor hir i S4C.

Yn y llythyr agored, mae TAC yn croesawu'r parhad yn y Llywodraeth newydd sy'n golygu bod y Gweinidogion gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o S4C, ac mae hefyd yn canmol y trefniadau treth manteisiol i’r diwydiannau creadigol.

Aiff y llythyr ymlaen i ddweud bod angen datrysiad ariannu a llywodraethu tymor hir ar gyfer S4C.

Ar hyn o bryd mae'r cyllid ar gyfer S4C yn cael ei rannu rhwng grant o £6.7m gan DCMS a £75m o Ffi'r Drwydded Deledu. O ganlyniad, mae S4C yn cael ei goruchwylio yn rhannol gan Ymddiriedolaeth y BBC, er ei fod yn parhau i fod yn ddarlledwr ar wahân gyda'i bolisi golygyddol a gweithredol ei hun. Mae Maniffesto Polisi TAC, gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, yn galw ar i gyllid S4C godi 10% a bod yn gysylltiedig â chwyddiant.

Mae’r llythyr hefyd yn gofyn i Adolygiad Siarter y BBC i annog y BBC i gomisiynu mwy gan gynhyrchwyr yng Nghymru ar gyfer y rhwydwaith, fel rhan ymgais i gynrychioli'r rhanbarthau Prydeinig yn fwy effeithiol.

Dywedodd Cadeirydd TAC Iestyn Garlick: "Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflwyno mesurau cadarnhaol ar gyfer y diwydiannau creadigol.

"Y cam nesaf fydd i S4C, yn ei rôl fel un sydd yn hybu tyfiant economaidd a chreadigol, ynghyd a’i phwysigrwydd diwylliannol , gael sail ariannol a llywodraethol sefydlog yn y tymor hir."

"Mae’r ffigyrau gwylio yn cynyddu ar draws bob platfform, yn enwedig ers ymddangos ar yr I-Player, ac mae'n creu gwerth economaidd i economi Cymru, sy'n ddwbl y swm mae'n buddsoddi.

"Er mwyn i hyn barhau, mae'n bwysig bod cyllid S4C yn cael ei gosod ar lefel gynaliadwy a bod ei llywodraethu yn gliriach.

"Dylai canlyniad yr Adolygiad Siarter gynnwys dyfodol tymor hir ar gyfer S4C, ac yn y tymor byr, ni ddylai unrhyw doriadau a orfodir ar y BBC, oherwydd i’r Ffi'r Drwydded gael ei rhewi, gynnwys S4C, gan ei fod yn ddarlledwr ar wahân."

Hefyd mae’r llythyr yn galw am adolygiad i’r trefniannau treth ar gyfer cynyrchiadau mewn ieithoedd lleiafrifol, cam ‘alla’i fod o fudd i Gymru drwy ddenu rhagor o fuddsoddi.

Rhannu |