Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mehefin 2015

Cyflwyno Coron Eisteddfod Genedlaethol

Neithiwr cyflwynwyd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod.

Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a’r wobr ariannol gan y teulu er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre’r Aran, Llanuwchllyn.

Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, a gofynnwyd iddo gyfleu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y Cymry a’u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.

Gwnaed cylchyn y Goron o arian. Ar ei ganol, gwelir carreg a godwyd o draeth Porth Madryn, lle glaniodd y gwladfawyr Cymreig cyntaf ddydd Gwener 28 Gorffennaf 1865.  Ar y garreg hon, gosodwyd y nod cyfrin.  Cymru newydd ym Mhatagonia oedd y nod yr anelai gwladfawyr y Mimosa ato, a’u gobaith oedd cael bywyd newydd, llewyrchus a rhydd o bob gormes yno.

O bobtu’r garreg, gwelir hwyliau’r Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith cyn i’r ymfudwyr lanio ar dir eu gwlad newydd. Dyma symbol o ddiwedd un cyfnod a dechrau’r nesaf. Mae’r rhain hefyd yn cynrychioli’r ddwy gofeb a welir ar y lan – cerflun o’r wraig Gymreig a’i chefn at y môr yn edrych mewn gobaith at y tir ac, ar benrhyn ger man y glaniad, cerflun o frodor yn edrych allan dros y môr yn barod i groesawu’r Cymry.

Ar y cylchyn hefyd gwelir symbol o afon Camwy. Mae ei dyfroedd wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd y trigolion o’r dechrau un. Heb ddŵr yr afon a dyfeisgarwch y gwladfawyr, ni fyddai tiroedd Dyffryn Camwy erioed wedi bod yn gynhyrchiol.

Mae’r blodau yn cynrychioli planhigyn y Celyn Bach (neu’r Quilimbay, sef y fersiwn frodorol o’r enw Cymraeg). Mae’r planhigyn hwn yn tyfu hwnt ac yma ar y paith.

Daw defnydd y cap, a wnaed gan Mary Price, o Batagonia – yr un defnydd a ddefnyddir yng ngwisg Gorsedd y Wladfa.

Meddai Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, “Mae’n bleser derbyn y Goron hardd yma heno, a diolch yn fawr i Gymdeithas Cymru-Ariannin a theulu’r diweddar Aur ac Arwyn Roberts am eu haelioni.  Mae eleni’n flwyddyn eithriadol o bwysig i’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia, a braf yw gallu nodi’r cysylltiad hwn mewn ffordd mor hardd, drwy gyplysu’r ddwy wlad ynghyd drwy waith celfydd John Price.

“Mae’n bleser derbyn y Goron hon ar ran y Pwyllgor Gwaith, a gwn fod gweddill y Pwyllgor, fel minnau a phawb yng Nghymru’n gobeithio y bydd teilyngdod yn y seremoni a gynhelir brynhawn Llun 3 Awst yn y Pafiliwn.  Edrychwn ymlaen i’r seremoni a diolch yn fawr am eich cefnogaeth, nawdd a Choron hyfryd.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod o 1-8 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.

Rhannu |