Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mehefin 2015

Dem Rhydd Cymru yn lansio ymgyrch i achub S4C

Mae’r ffi drwyddedu yn darparu £74m i S4C, sy’n 90% o gyllid y sianel. Mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn addo rhewi’r ffi drwyddedu ‘hyd nes adnewyddir y Siarter’ ond mae’r Ysgrifennydd Diwylliant newydd John Whittingdale AS wedi dweud yn y gorffennol dylid sgrapio hi. Gyda’r angen i adnewyddu Siarter y BBC erbyn 2017, bydd trafodaethau ynglŷn ag ariannu a maint y BBC yn dechrau dros yr haf.

Mae’r £8m o arian S4C sy’n weddill yn dod oddi wrth Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, ac nid oes gwarant fydd yn parhau ar ôl y flwyddyn hon.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnal dadl yn y Cynulliad ar ddydd Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i gysylltu â Llywodraeth y DU ar bwysigrwydd amddiffyn annibyniaeth olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C a’r angen am setliad arian cynaliadwy er mwyn amddiffyn dyfodol darlledu Cymraeg.

Dywedodd Aled Roberts AC, Gweinidog Cysgodol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y Gymraeg: “Mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol i amddiffyn ein hiaith a chyfoethogi diwylliant Cymreig, yn ogystal â dod ag elw i’r economi leol.

"Mae pob £1 a wariwyd gan S4C yn werth £2.09 i’r economi Gymreig ac ers lansio’r sianel yn 1982 mae hi wedi dod â dros £2.2bn o fuddsoddiad i Gymru.

“Mae’n debyg bod gan y Torïaid agenda wrth-BBC gyda’r amcan i’w gulhau cymaint â phosib. Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant newydd wedi dweud dylid sgrapio ffi drwyddedu’r BBC, sy’n creu ansicrwydd mawr ynglŷn ag ariannu dyfodol S4C, ac nid oes gwarant i arian y Llywodraeth ar ôl eleni. Mae hyn yn gwneud hi’n anodd ofnadwy i’r sianel gomisiynu gwaith, sy’n cael effaith ar swyddi a chynllunio i’r dyfodol.

“Bydd Dem Rhydd Cymru yn brwydro i sicrhau dyfodol i S4C. Mewn Llywodraeth, chwaraeodd y Democratiaid Rhyddfrydol rôl allweddol yn sicrhau setliad presennol S4C a bod y cytundeb gweithredu newydd rhwng y BBC ac S4C yn rhoi dyfodol sicr i’r sianel wrth gadw’i hannibyniaeth. Rwy’n pryderu bydd y Ceidwadwyr hebom ni yn y Llywodraeth yn parhau gyda’u cynlluniau heb feddwl am ddyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg.

“Wrth i drafodaethau dros adnewyddu Siarter y BBC ddechrau'r haf hwn, mae hi’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi achos cryf dros ddyfodol S4C. Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr gyfaddef eu cynlluniau am ddyfodol S4C er mwyn rhoi diwedd i’r ansicrwydd presennol, er mwyn i’r sianel barhau i gomisiynu’r rhaglenni Cymraeg rydym ni oll yn mwynhau.”

Rhannu |