Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mehefin 2015

Lansio apêl i roi cymorth i Ghana

Yng nghynhadledd flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru a gynhaliwyd yr wythnos hon ym Môn (14-17 Mehefin), cyhoeddwyd cynlluniau’r undeb ar gyfer ei hapêl flynyddol i godi arian i Cymorth Cristnogol. Cynllun Hyrwyddo Iechyd Mamolaeth yn Ghana fydd yn elwa wrth i nod ariannol gael ei osod i’r gronfa o £40,000.

Er fod Ghana yn wlad sydd a’i heconomi yn gwella’n raddol, mae na bryder nad yw’r arian yn cael ei wario yn y ffordd orau posib ac mae tlodi affwysol yn dal yn amlwg yno. Mae hyn yn effeithio yn enwedig ar ferched ifanc ac mae nifer fawr ohonynt yn marw tra’n rhoi genedigaeth gan nad oes gofal addas ar gael.

Wrth lansio’r Apêl dywedodd y Parch Denzil John, Cadeirydd Pwyllgor Eglwys a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Undeb Bedyddwyr Cymru: “Mae’n bwysig bod Eglwysi Cymru yn ceisio deall ac uniaethu gydag amgylchiadau byw y trydydd byd drwy godi arian a chyfrannu at wella gwasanaethau cwbl sylfaenol. Mae na nod ddeublyg felly i’r apêl hwn, i godi ymwybyddiaeth ac i godi arian sydd mawr ei angen.”  

Mae’r apêl wedi cael cychwyn da eisoes wrth i’r Parch Wynn Vittle, awdur y gyfrol, Ehangu Gorwelion, sy’n olrhain hanes Cymorth Cristnogol yng Nghymru, gyflwyno elw gwerthiant y gyfrol i’r Apêl.

Wrth gyflwyno siec am £3,000 dywedodd y Parchg Wynn Vittle: “Mae’n fraint arbennig i gychwyn yr Apêl trwy Cymorth Cristnogol a minnau’n gwybod o brofiad y caiff yr arian ei ddefnyddio gan ein partneriaid yn Ghana er budd y trigolion.”

Yn ôl Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, gall y gefnogaeth hyn gan Undeb y Bedyddwyr wneud gwahaniaeth sylweddol yn Ghana,

“Mae Ghana yn wlad sydd wedi datblygu yn gadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf o safbwynt llywodraethiant ac o ran yr economi felly mae na lwyfan cadarn yno er mwyn mynd i’r afael a rhai o’r problemau sydd wedi eu hadnabod gan y Bedyddwyr. Drwy weithio’n stratgeol gyda’n partneriaid yno a chyda cefnogaeth cyd-ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd rydym yn hyderus gallwn weld newid gwirioneddol yn y  wlad.

“Hoffwn ddiolch i’r Bedyddwyr am eu cefnogaeth a’u blaengaredd wrth ddatblygu’r apêl hwn.”  

Mae’r cynllun arbennig yma yn cael ei gyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd gyda phob £1 yn sicrhau cyfraniad o £11 gan Ewrop.

Rhannu |