Mwy o Newyddion
Pobl ifanc yn gofyn i aelodau seneddol weithredu ar newid hinsawdd
Roedd grŵp o gefnogwyr Cymorth Cristnogol o ogledd Cymru ymysg miloedd o bobl o bob cwr o’r DU fu yn San Steffan wythnos hon (17 Mehefin) yn gofyn i’r Llywodraeth weithredu ym maes newid hinsawdd.
Cyfarfu’r grŵp, oedd yn cynrychioli eglwys gymunedol Noddfa yng Nghaernarfon, ag AS Arfon, Hywel Williams ac AS newydd Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts yn y Tŷ Cyffredin fel rhan o rali enfawr, y cyntaf yn nhymor y Senedd newydd wrth iddynt bwysleisio’r angen ddirfawr i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Trefnwyd y lobi gan ymgyrch Er Mwyn… gan y Gynghrair Hinsawdd (The Climate Coalition) a buont yn siarad a’u Haelodau Seneddol ynglŷn â sut y mae’r hyn sy’n bwysig iddynt yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, yn ogystal â rhannu eu gweledigaeth am blaned lanach a gwyrddach.
Eglurodd Allana Owen sydd yn 15 oed ac o Gaernarfon pam oedd hi yno: “Roedd yn bwysig i fi a’m ffrindiau gael bod yma yn San Steffan ac i weithredu drwy herio’r Llywodraeth i wrando ac i wneud i bethau ddigwydd. Ni yw cenhedlaeth y dyfodol ac ryn ni’n poeni am ein byd. Yn fwy na dim ryn ni am wneud gwahaniaeth."
Adleisiodd Hywel Williams deimladau’r bobl ifanc: “Newid hinsawdd ydy un o’r peryglon mwyaf sy’n wynebu’r byd a’i phobl. Mae’n hanfodol i ni roi’r flaenoriaeth uchaf i weithredu cadarn, o ran Llywodraeth Prydain ac yn ddiweddarach eleni pan fydd cenhedloedd y byd yn cyfarfod i drafod ffordd ymlaen.
“Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod criw Cymorth Cristnogol heddiw, yn arbennig y bobl ifanc, ac yn gwethfawrogi yn fawr iawn eu hymrwymiad di-ysgog i’r achos hwn ac i ddatrys problem tlodi byd eang.”
Llun: Allana Owen, Elin Jones, Cadi Williams, Anna Jane Evans, Llinos Morris, Emlyn Cullen, (Cymorth Cristnogol) gyda Hywel Williams AS, Liz Saville-Roberts AS a Jonathan Edwards AS