Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Mehefin 2015

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn penodi cyfarwyddwr artisitig newydd

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi  mai Caroline Finn sydd wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig newydd y Cwmni. 

Yn enillydd Gwobr Coreograffydd Anturiaethau Newydd Matthew Bourne 2014, enillodd Caroline Finn ganmoliaeth yn ddiweddar am ei chreadigaeth ddiwethaf, Bloom, sef cyd-gynhyrchiad rhwng Cwmni Dawns Theatr Phoenix a Re:born Matthew Bourne, sy’n teithio Ewrop a’r DU ar hyn o bryd.

Bydd Caroline yn ymuno â’r Prif Weithredwr Paul Kaynes i arwain y Cwmni er mwyn gwireddu gweledigaeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o fod â ffocws ar gynulleidfaoedd ac estyn allan gan wneud hynny ar sylfaen busnes cadarn.

Treuliodd Caroline flynyddoedd lawer yn gweithio fel Dawnsiwr Llawrydd a choreograffydd ar gyfer nifer o gwmnïau rhyngwladol yn cynnwys; Tanz Luzerner Theater yn y Swistir; Bale Cross Connection yn Nenmarc; Compagnie DIEM yn Ffrainc a Teatr Groteska  yng Ngwlad Pwyl. Fel dawnsiwr mae wedi perfformio gyda Ballett Theater Munich dan gyfarwyddyd Philip Taylor; Ballet Preljocaj; Compagnie Carolyn Carlson; Jochen Heckmann a Johanna Richter. Bu i’w chynhyrchiad unigol uchel ei glod, Bernadette deithio’n rhyngwladol i wyliau yn yr Almaen, Gwlad Pwyl, Ffrainc a De Corea. 

Yn ogystal ag ennill enw iddi ei hun am weithiau ar y llwyfan rhyngwladol, mae Caroline wedi gweithio’n helaeth hefyd gyda phobl ifanc, gan lunio perfformiadau integredig ar gyfer pobl ifanc megis Breaking Light gydag Alan Brooks yng ngogledd Ffrainc. 

Dywedodd Caroline Finn: "Rwyf wrth fy modd o fod yn ysgwyddo swydd Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae hwn yn gwmni bendigedig i fod yn ymuno ag ef, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fanteisio ar y cyfleoedd i wireddu gweledigaeth sy’n denu cynulleidfaoedd yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol, yn ogystal â datblygu rhaglen estyn allan sy’n hybu brwdfrydedd ar gyfer dawns led-led pob cymuned."

Mae’r cyhoeddiad ynghylch penodi’r Cyfarwyddwr Artistig newydd yn dilyn penodiad diweddar y Prif Weithredwr, Paul Kaynes, sydd â 25 mlynedd a rhagor o brofiad o weithio ym maes y celfyddydau, yn cynnwys rhaglen gelfyddydol a diwylliannol yr Olympiad diwylliannol a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd y bartneriaeth hon o wybodaeth artistig a gwybodaeth ynghylch cynulleidfaoedd a phrofiad ohonynt yn darparu sylfaen cryf ar gyfer ffocws newydd i’r Cwmni – Cwmni sydd â hanes toreithiog  o ddefnyddio’r ddawns i ysbrydoli a denu cynulleidfaoedd sy’n teimlo’n angerddol ynghylch dawns fel celfyddyd, a gwneud hynny led-led Cymru, y Du ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Cadeirydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Andrew Davies: “Rwyf wrth fy modd bod CDCCymru wedi llwyddo i ddenu rhywun o safon Caroline Finn  i swydd y Cyfarwyddwr Artistig.  Mae’n dod gyda hi i Gymru ei hanes eithriadol o lwyddiannau rhyngwladol, ei gweledigaeth gref a’i photensial aruthrol. Mae gan Caroline hanes clodwiw ac mae i’w gwaith ffresni ac uchelgais. Yr wyf i, ac ymddiriedolwyr eraill y Cwmni yn llawn cyffro ac yn hyderus y bydd yn cynhyrchu dawns o safon eithriadol uchel a fydd yn ysbrydoli ac yn cyfareddu, nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngweddill y byd hefyd.”

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Celfyddydol Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch tu hwnt bod y Cwmni wedi llwyddo i ddenu ymgeiswyr mor gryf ar gyfer y penodiad allweddol hwn, ac o blith yr ymgeiswyr cryf rheini wedi penodi unigolyn mor ddawnus ac uchel ei pharch â Caroline Finn fel ei arweinydd artistig. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y Cwmni ac ar gyfer Cymru, yn arbennig felly yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn arwain at i Gymru fod yn darparu llety ar gyfer y British Dance Edition yn 2016. Mae gan Caroline brofiad a dynesiad rhyngwladol helaeth ac â’r holl nodweddion i blannu’r Cwmni yn ganolog ym mywyd diwylliannol Cymru at y dyfodol, a manteisio i’r eithaf ar yr egni a’r doniau sydd gan y Cwmni eisoes a’r rheini y gall eu denu hefyd."

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnig adnoddau gwerthfawr y gellir adeiladu arnynt, o fewn y sector ddawns yn y DU ac yn rhyngwladol; ac un o’r prif bethau a roddwyd fel ffocws i’r tîm newydd hwn o arweinwyr yw chwilio am gyfleoeddd i ddatblygu rôl y Cwmni yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Bydd Caroline Finn yn cychwyn ar ei gwaith fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Medi 2015.

Rhannu |