Mwy o Newyddion
Noson wych i dîm Plaid Cymru Gwynedd
Enillodd Plaid Cymru Gwynedd sedd oddiwrth Llais Gwynedd yn Is Etholiad Llanaelhaearn, Cyngor Gwynedd neithiwr (19 Tach) a chadw sedd Dewi ym Mangor. Yn ogystal, cadwodd Plaid Cymru sedd Cyngor Dinas Bangor.
"Mae hi wedi bod yn noson wych," meddai Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, Dyfed Edwards, "diolch i safon ein hymgeiswyr, eu hadnabyddiaeth o anghenion lleol a’r pwysigrwydd o drafod gydag etholwyr ar lawr gwlad.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r tîm o wirfoddolwyr a chefnogwyr Plaid Cymru am eu hymroddiad yn ogystal â’r aelodau o staff sydd wedi cefnogi’r ymgeiswyr mewn tair Is Etholiad.”
Rheolwr Menai Tractors, Aled Wyn Jones o Drefor enillodd Llanaelhaearn gan ddwyn y sedd gan Llais Gwynedd yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Llywarch Bowen Jones i ymddiswyddo o’r rôl yn gynharach eleni.
Y gŵr ambiwlans, Gareth Roberts gadwodd sedd Ward Dewi ym Mangor, yn dilyn ymddeoliad y Cynghorydd Eddie Dogan a fu’n gynrychiolydd Plaid Cymru dros yr ardal am flynyddoedd lawer.
Cadwodd Plaid Cymru hefyd sedd Cyngor Dinas Bangor. Y Gweinidog, Colin King fydd yn cymryd yr awennau fel cynrychiolydd y Ward Dinas.
Yn ôl Dyfed Edwards: “Rydym yn wynebu cyfnod heriol wrth i awdurdodau lleol ledled Cymru deimlo’r wasgfa o doriadau ariannol mawr y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.
"Ond mae Plaid Cymru Gwynedd yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros bobl yr ardal, ac rydym yn awyddus i edrych ymlaen yn gadarnhaol i'r dyfodol.
“Rydym yn croesawu Aled a Gareth i Dîm y Blaid yng Ngwynedd ac yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
"Croeso hefyd i Gynghorydd Dinas newydd, Colin King. Rydym yn dîm cryf a gyda'n gilydd gallwn wynebu'r heriau sydd o'n blaen, yn broffesiynol ac yn hyderus.”
Bydd gan Plaid Cymru bellach 39 Cynghorydd, mwyafrif clir, wrth gynrychioli pobl Gwynedd yn y Cyngor.