Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Tachwedd 2015

Llywodraeth Lafur yn anwybyddu eu canllawiau eu hunain trwy ddileu cylchgrawn ‘Gwlad’

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri eu canllawiau eu hunain ar ymwneud y cyhoedd wedi iddynt gyhoeddi cynlluniau i roi’r gorau i’r fersiwn brintiedig o ffynhonnell allweddol o wybodaeth i ffermwyr.

Mae’r symudiad i roi’r gorau i argraffu’r cylchgrawn Gwlad wedi ei feirniadu gan Weinidog Materion Gwledig cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd AC, sydd wedi rhybuddio y bydd y penderfyniad i’w gyhoeddi arlein yn unig yn gwaethygu’r bwlch digidol yng Nghymru wledig.

Mae Mr Gruffydd yn awr wedi annog y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd i gadw dewis optio i mewn i’r sawl sydd am dderbyn fersiwn brint o Gwlad, gan rybuddio bod y symudiad yn codi’r perygl o amddifadu llawer o ffermwyr at fynediad at newyddion, gwybodaeth a chyngor allweddol.

Dywedodd Llyr Gruffydd: “Mae Gwlad yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth  i ffermwyr Cymreig.

"Mae’n cynnwys newyddion, cyngor a gwybodaeth bwysig am amrywiaeth o faterion megis iechyd a lles anifeiliaid, camau bioddiogelwch, cyfleoedd hyfforddi a chyllido.

"Er bod mwy o bwyslais ar ddefnyddio gwasanaethau arlein yn un peth, mae dileu’r fersiwn brint o Gwlad yn debygol o eithrio llawer o ffermwyr o gyrchu’r wybodaeth bwysig yma.

“Dengys ymchwil diweddar mai dim ond 33% o bobl dros 65 sy’n debyg o fod arlein - o gymharu â 99% o’r rhai dan 24 oed yn ôl ystadegau’r DG .

 “O dderbyn proffil oedran ffermwyr yng Nghymru a’r ffaith fod ardaloedd gwledig yn dioddef fwyaf o fand llydan gwael, does dim rhaid bod yn athrylith i sylweddoli bod gosod gwybodaeth hanfodol arlein yn unig yn hytrach na defnyddio nifer o wahanol opsiynau yn mynd i roi llawer o ffermwyr Cymru dan anfantais.

“Pan godais bryderon am eithrio digidol yn y Cynulliad, cyfeiriodd y Gweinidog gwasanaethau Cyhoeddus at gyfres o ganllawiau o egwyddorion a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth– Egwyddorion Cenedlaethol Cyfranogi Cyhoeddus.

"Un o’r egwyddorion hynny yw ‘Ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan – Gall pobl ymwneud yn hawdd oherwydd bod unrhyw rwystrau i wahanol grwpiau o bobl yn cael eu nodi a’u trin.’

“Os ydym yn gwybod fod ffermwyr yn llai tebygol o gyrchu gwybodaeth dros y rhyngrwyd am yr holl resymau uchod, yna mae’n hollol wirion fod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’u penderfyniad i ddileu fersiwn brint.

“Mae gwir fwlch digidol yn ymddangos, a rhaid i Lywodraeth Cymru ymdrin ag ef cyn iddo eithrio cymunedau cyfan rhag cyrchu gwybodaeth allweddol. Rhaid i’r Dirprwy Weinidog ailystyried ei phenderfyniad a gofalu nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.”

Llun: Llyr Gruffydd

Rhannu |