Mwy o Newyddion
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhagori ar ei darged wyth munud
Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod bron i 70% o bobl a oedd â salwch neu anafiadau a oedd yn rhoi bywyd yn y fantol wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud yn ystod mis cyntaf cynllun peilot a gynhelir dros flwyddyn i brofi newidiadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae’r ffigyrau’n dangos bod un allan o bob tri person (34.7%) wedi cael ymateb o fewn pedwar munud.
Mae’r ffigyrau ar gyfer mis Hydref – sef mis cyntaf y model ymateb clinigol newydd – yn dangos bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyrraedd ac wedi rhagori ar y targed y dylai 65% o’r ymatebion i’r argyfyngau lle mae rhywun mewn perygl mawr o farw gyrraedd o fewn wyth munud.
Ymatebwyd i gyfanswm o 68.7% o alwadau coch o fewn wyth munud. Roedd yr amser ymateb cyfartalog i’r math hwn o alwad yn bum munud a 44 eiliad.
Mae’r ffigyrau’n dangos:
* Bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi derbyn 38,155 o alwadau brys ym mis Hydref 2015, sef cyfartaledd o 1,231 y dydd;
?* O’r galwadau hyn, roedd 1,877 (5%) yn alwadau brys lle’r oedd rhywun mewn perygl mawr o farw – galwadau coch. Cyrhaeddodd 68.7% (1,267) o’r ymatebion o fewn wyth munud, sy’n uwch na’r targed o 65%;
?* Ymatebwyd i 74% o’r galwadau coch o fewn naw munud; 78.9% o fewn 10 munud.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw’n dangos bod y system newydd yn gweithio, gyda bron i 70% o'r galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru lle’r oedd rhywun mewn perygl mawr o farw yn cael ymateb o fewn wyth munud. “Rwyf eisiau diolch i glinigwyr rheng flaen, ymatebwyr cyntaf gwirfoddol a staff canolfan gyswllt glinigol hynod weithgar y gwasanaeth ambiwlans am eu hymroddiad a’u hymrwymiad. Mae eu gwaith wrth ddilyn y model ymateb clinigol newydd yn hanfodol er mwyn cyflawni gwell canlyniadau i gleifion.
“Rydym yn gwybod y gall newid fod yn anodd yn y gwasanaeth iechyd – i staff ac i’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae’r ffigyrau cychwynnol yn o’r cynllun peilot hwn yn awgrymu bod y model ymateb clinigol newydd yn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn.
“Rwy’n disgwyl i’r gwasanaeth adeiladu ar y canlyniadau cynnar hyn; dysgu gwersi a pharhau i wella i sicrhau bod y sgiliau achub bywyd sydd gan glinigwyr ambiwlans ar gael i’r bobl sydd eu hangen yn yr amser cyflymaf posib ac i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.”
Dywedodd Tracey Myhill, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym wedi cael dechrau da iawn i’r cynllun peilot newydd arloesol hwn, ac mae ffigyrau heddiw’n dyst i hynny. “Mae ein dyled yn fawr, nid yn unig i’r model newydd – sy’n golygu bod cleifion bellach yn cael y gofal iawn ar yr amser iawn gan y clinigydd iawn – ond hefyd i’r staff sydd wedi bod yn gweithio’n hynod galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel, yn brydlon.
“Rydym yn ddiolchgar i’r staff am groesawu’r ffordd newydd hon o weithio, ac i bobl Cymru am eu hamynedd ac am ddeall y sefyllfa wrth inni barhau i wella.
“Rydym yn ymrwymo i adeiladu ar y canlyniadau cynnar hyn ac i ddarparu gwasanaeth ambiwlans y gall ein cleifion fod yn falch ohono.”
Llun: Vaughan Gething