Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Tachwedd 2015

Rali Cymru GB yn cael ei galw'n llwyddiant ysgubol

• Tîm Rali Cymru GB yn trechu’r gwynt a’r glaw i gynnal rali lwyddiannus
• Cystadleuwyr a gwylwyr yn cael eu tretio i dri diwrnod anodd o ralïo arwrol
• Kris Meeke yn llawn canmoliaeth i ‘awyrgylch rhyfeddol’ ‘clasur’ o rali

Mae swyddogion, marsialyddion a gwylwyr i gyd wedi’u canmol am helpu i wneud Rali Cymru GB 2015 yn llwyddiant ysgubol – er i’r gwynt a’r glaw wneud eu gorau glas i daflu pethau oddi ar y cledrau.

Gyda’i slot calendr hwyr, mae Rali Cymru GB yn enwog fel un o’r ralïau caletaf ar raglen flynyddol Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA; roedd y tywydd eithafol yn golygu bod rali eleni yn hyd yn oed yn fwy o her nag arfer.

Fe wnaeth glaw trwm a gwyntoedd grym tymestl herio’r trefnwyr trwy gydol yr wythnos, ond fe wnaeth Parc Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy ddal i groesawu 160 o dimau a mwy na 20,000 o ymwelwyr.  Aeth y cymalau coedwig yn eu blaen fel y cynlluniwyd, er bod rhaid monitro Storm Abigail a Hurricane Kate yn gyson, a’r unig anhap oedd gorfod cau cymal eiconig Y Gogarth i wylwyr oherwydd rhesymau diogelwch.

Fe wnaeth difrod sylweddol i’r Parc Gwasanaeth dros nos ddal yr amser agor cyhoeddus yn ôl ddydd Sul hefyd, ond drwy ymdrech arwrol gan dîm y rali aeth y Gorffen Seremonïol yn ei flaen yn unol â’r cynllun unwaith yr oedd y gwynt wedi tawelu. Ym marn Rheolwr-Gyfarwyddwr Rali Cymru GB, Ben Taylor, roedd yn fuddugoliaeth i benderfynoldeb dros helbulon parhaus.

“Bu cymaint o bobl a wnelo â chadw sioe Rali Cymru GB eleni ar y ffordd, ac ni allaf ddiolch digon iddyn nhw mewn gwirionedd,” pwysleisiodd. “Roedd yn un o ralïau caletaf Rali Cymru GB yn y cyfnod diweddar a chwaraeodd bawb ran cwbl hanfodol wrth helpu i orchfygu’r holl rwystrau a osodwyd yn ein ffordd.

“Rhaid imi dalu teyrnged arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos yma. Bob blwyddyn mae’r gwaith y maen nhw’n ei wneud i baratoi’r cymalau yn derbyn canmoliaeth helaeth gan y gyrwyr a’r timau, ond eleni maen nhw wedi gwneud ymdrechion gwirioneddol enfawr i gadw’r rali ar y trywydd iawn, yn cynnwys symud y coed cwympedig fore dydd Sul yn ardal y Brenig a’r Alwen.

“Ond uwchlaw popeth arall, fe wnaeth proffesiynoldeb eithriadol, paratoadau manwl gywir ac ymroddiad diysgog ein trefnwyr, swyddogion, marsialyddion, clybiau ceir a gwirfoddolwyr sicrhau bod un o ralïau mwyaf heriol Rali Cymru GB yn un o’r mwyaf llwyddiannus hefyd, a’i bod wedi’i mwynhau gan gefnogwyr a chystadleuwyr fel ei gilydd.

“Rydym wedi gweld twf sylweddol ym mhob maes eleni gyda’r niferoedd a oedd am gystadlu wedi’u gordanysgrifio, y cwota mwyaf posibl o farsialyddion gwirfoddol, gwerthiannau tocynnau o flaen llaw yn uwch a mwy o bartneriaid masnachol i’n helpu i’w gwneud yn well fyth. Mae’r achlysur yn symud i’r cyfeiriad iawn ac mae gwaith ar fynd yn barod i wneud yn siŵr bod Rali Cymru GB 2016 yn fwy ac yn well eto!”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: "Bu Rali Cymru GB yn llwyddiant ysgubol eto – a hynny gyda’r gyrwyr a'r gwylwyr. Roedd yr amodau heriol wedi bod yn dipyn o sialens i’r trefnwyr a gwirfoddolwyr, ond hoffwn ddiolch i bawb am dynnu at ei gilydd a sicrhau ddigwyddiad gwych ac hefyd  i'r gwylwyr am roi croeso Cymreig mor gynnes i’r  holl yrwyr  - er gwaethaf yr elfennau.

"Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at y digwyddiad yn 2016 - a fydd wrth gwrs yn Flwyddyn Antur Cymru. Gobeithio bydd yr amseriad cynharach ym mis Hydref yn golygu y bydd y tywydd yn fwy caredig a bydd hefyd yn rhoi cyfle gwych i ni ddenu mwy o bobl i Gymru yn ystod hanner tymor."

Roedd hyd yn oed mwy o galondid i’r tyrfaoedd gwydn, wrth i seren Tîm Rali Byd Citroën Total Abu Dhabi, Kris Meeke ddod yn yrrwr cyntaf Prydain i orffen ar y podiwm ar dir cartref mewn bron degawd a hanner trwy lywio’i DS3 WRC i’r ail safle.

“Rwyf am ddiolch i’r holl wylwyr – nid y cefnogwyr cartref yn unig, a oedd yn anhygoel, ond unrhyw un a safodd allan yn y glaw – ac mae hynny’n cynnwys y swyddogion hefyd,” meddai’r gŵr o Ogledd Iwerddon. “Roedd yna awyrgylch rhyfeddol i’r achlysur; hyd yn oed y tu mewn i’r car, fe gawsom y teimlad gwirioneddol hwnnw ei bod yn glasur.

“Roedd yr amgylchiadau’n anhygoel o anodd; rwyf yn gwybod nad ydy hynny’n rhywbeth newydd yn Rali GB, ond y penwythnos hwn yn arbennig roedd fel petai’r glaw heb stopio o gwbl. Roedd yn dod o’r ochr ar adegau, fel y mae Cymru’n unig yn gwybod sut, ond roedd y cefnogwyr yn dal yno gyda’u fflagiau, eu baneri a’u cyrn awyr ac fe ellwch ei deimlo yn y car, credwch fi. Roedd yn brofiad ffantastig.”

Dilynwch Rali Cymru GB ar Twitter @walesrallygb neu ymunwch â’r sgyrsiau ar Facebook ar www.facebook.com/walesrallygb

Rhannu |