Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Tachwedd 2015

Strategaeth Ynni y DG y tu ôl ymlaen, medd Plaid Cymru

Mae Gweinidog Ynni cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi dweud fod strategaeth ynni newydd y DG “y tu ôl ymlaen” gan ddweud y bydd yn golygu y bydd pwerdai nwy yn tra-arglwyddiaethu ar y cyflenwad ynni pan allai weithredu fel ffynhonnell wrth gefn i ffynonellau adnewyddol glanach a rhatach.

Yr oedd Mr Gruffydd yn ymateb i adroddiadau fod disgwyl i Ysgrifennydd Ynni y DG gyhoeddi y byddai pwerdai glo y DG yn cau erbyn 2025 - sy’n cael ei groesawu gan ei blaid - ond bydd polisi’r llywodraeth yn arwain at orddibyniaeth ar nwy.

Dywedodd Llyr Gruffydd: “Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu’r newyddion y bydd pwerdai glo yn cau erbyn 2025

" Mae glo yn fudr ac yn ddrud ac nid oes lle iddo yn ein cymysgedd ynni.  Ond y mae dewis arall Llywodraeth y DG y tu ôl ymlaen; maent eisiau i nwy fod flaenaf mewn cyflenwad ynni gyda rôl fechan i ynni adnewyddol.

"Ffordd arall y dylai fod. Dylai ffynonellau adnewyddol fod yn galon gref ein cyflenwad ynni gyda chynhyrchu nwy wrth gefn yn unig.

“Mae ynni adnewyddol yn lân, yn gynyddol ddibynadwy ac yn gost-effeithiol, ond mae penderfyniad San Steffan i dorri cefnogaeth i ynni adnewyddol wedi creu ansicrwydd ymysg buddsoddwyr, yn bygwth ein targedau newid hinsawdd ac fe gaiff ganlyniadau economaidd andwyol hefyd.

“Petai San Steffan wedi cadw eu hymrwymiad i ynni adnewyddol, yna gallai’r sector cyfan fod yn rhedeg heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus o 2030 ymlaen; gan gyflwyno ynni dibynadwy a fforddiadwy a chefnogi diwydiant a swyddi.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynllun ynni sy’n wyrdd at ei wreiddiau ac a fedr danio adnewyddiad economaidd Cymru a chwrdd ein hoblygiadau byd-eang o ran gwrthweithio newid hinsawdd. Rydym yn annog Llywodraeth y DG i ail-ystyried eu safbwynt anghyson ar ynni.”

Rhannu |