Mwy o Newyddion
Cynlluniau rhan olaf prosiect deuoli Blaenau'r Cymoedd yn cael eu harddangos
Bydd cynlluniau arfaethedig ar gyfer rhan olaf prosiect deuoli Blaenau'r Cymoedd yr A465 gwerth £800m yn cael eu harddangos y mis nesaf.
Bydd cyfle i'r cyhoedd weld y dyluniadau diweddaraf o ran naw milltir o hyd yr A465 o Ddowlais Top i Hirwaun, mewn pedair arddangosfa yn yr ardal leol o 7 Rhagfyr.
Bydd y gwaith, sy'n disgwyl cael ei orffen yn 2020, yn cwblhau'r 25 milltir o'r gwaith o ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun. Mae'n rhan allweddol o gynlluniau i adfywio Cymoedd y De'n economaidd.
Mae'r cwmni ymgynghori Jacobs UK wedi'i benodi'n Ymgynghorwyr Technegol Llywodraeth Cymru. Byddan nhw'n datblygu'r dyluniad, yn cwblhau'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ac yn symud y prosiect ymlaen i'r Broses Statudol. Bydd y dyluniad yn cael ei ddatblygu dros y flwyddyn nesaf cyn cyhoeddi Gorchmynion statudol drafft yn hydref 2016.
Bydd yr Arddangosfeydd Gwybodaeth i'r Cyhoedd yn cyflwyno'r dyluniad a ddatblygwyd yn y 1990au ac yn dangos ble rydym yn ystyried gwella'r dyluniad gwreiddiol. Bydd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a'r ymgynghorydd dylunio yno i esbonio'r cynigion ac i ateb cwestiynau.
Mae'r pedair arddangosfa fel a ganlyn:
Dydd Llun 7 Rhagfyr 2015 rhwng 12.00pm a 9pm yn Neuadd Eglwys St Lleurwg, Hirwaun CF44 9TA
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 rhwng 12.00pm a 9pm yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Coed CF48 2NA
Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2015 rhwng 12.00pm a 9pm yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais CF48 2NB
Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr 2015 rhwng 9am ac 1pm yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Coed CF48 2NA
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: "Mae deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn hanfodol i wella dibynadwyedd y ffordd a diogelwch defnyddwyr, i leihau eu hamser teithio ac i helpu i adfywio'r rhanbarth yn ehangach.
"Rwy'n falch ein bod ni bellach yn gallu cyflwyno dyluniadau rhan olaf y prosiect uchelgeisiol hwn.
"Rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn dod i'r arddangosfeydd i gael gwybod mwy am y prosiect a rhannu eu syniadau.
"Mae'r arddangosfeydd hyn yn rhan bwysig o'n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y cynllun, ond bydd rhagor o gyfleoedd i weld a rhoi sylwadau ar y cynigion wrth iddynt gael eu datblygu."
Bydd manylion yr arddangosfeydd a gwybodaeth ddiweddaraf am y cynllun yn cael eu rhoi ar wefan Llywodraeth Cymru yn http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/a465/section-5/?skip=1&lang=cy