Mwy o Newyddion
Miliwn o bobl i elwa ar gyfraith bwysig, newydd Rhentu Cartrefi
Ddoe cafodd cyfraith arloesol ei phasio yn y Senedd i wella bywydau miliwn o bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartrefi.
Bydd y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn ei gwneud yn haws ac yn symlach rhentu cartref, drwy ddisodli amryw o ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth gydag un fframwaith cyfreithiol clir.
Dyma un o'r deddfau pwysicaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu pasio. Bydd y Bil yn ei wneud yn rheidrwydd i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth sy'n mynegi hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'u tenantiaid yn eglur. Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu enghreifftau o gontractau am ddim, er mwyn helpu landlordiaid i gydymffurfio â'r gofyniad hwn.
Disgwylir i'r Mesur gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros Dai: "Rwy'n croesawu pasio'r Bil hwn drwy'r Cynulliad yn fawr iawn ac edrychaf ymlaen at ei weld yn cael Cydsyniad Brenhinol. Gyda mwy o bobl nag erioed yn rhentu eu cartrefi, mae'n hanfodol fod y gyfraith yn y maes hwn yn gyfoes ac yn addas i'w ddiben.
"Bydd y Bil yn sicrhau bod landlordiaid a'r rhai sy'n rhentu eu cartrefi'n ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau o'r dechrau'n deg, a bydd yn amddiffyn pobl rhag arferion gwael rhai landlordiaid.
"Mae wedi cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech eisoes i ddatblygu'r Bil, ond dyma pryd y bydd y gwaith caled yn dechrau o ddifrif. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio â phartneriaid i baratoi ar gyfer y broses o roi'r ddeddfwriaeth arloesol hon ar waith."
Bydd y Bil yn disodli'r nifer sylweddol o wahanol fathau o denantiaethau a thrwyddedau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac yn eu lle bydd yn darparu dau fath o gontract yn unig - un ar gyfer y sector rhent preifat a'r llall ar gyfer tai cymdeithasol.
Ymhlith dyletswyddau newydd landlordiaid bydd rheidrwydd i gynnal gwaith atgyweirio ac i sicrhau bod yr eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo. Bydd y Bil hefyd yn galluogi landlordiaid i adfeddiannu eiddo sydd wedi'i adael heb fod gofyn cael gorchymyn llys, gan olygu bod posibl ailosod yr eiddo yng nghynt, sydd er budd pawb.
Bydd pobl sy'n wynebu sefyllfaoedd anodd hefyd yn elwa ar y Bil. Bydd yn helpu i atal sefyllfa sydd ar hyn o bryd yn arwain at ddigartrefedd, pan fo cyd-denant yn gadael tenantiaeth, a thrwy hynny'n dod â'r denantiaeth i ben i bawb arall. Bydd hyn hefyd yn helpu rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, drwy ei gwneud yn bosibl troi’r sawl sy'n cam-drin allan o'r cartref heb droi’r cyd-denant allan hefyd.
Bydd y Bil hefyd yn helpu i amddiffyn pobl sy'n cwyno ynglŷn â chyflwr eiddo rhag cael eu troi allan o'u cartrefi.
Llun: Lesley Griffiths