Mwy o Newyddion
Comisiynydd Heddlu’n apelio am gymorth y cyhoedd i greu cynllun newydd
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn annog pobl o bob rhan o Ogledd Cymru i’w helpu i lunio ei gynllun newydd ar gyfer plismona yn yr ardal.
Mae Winston Roddick am i bob cymuned, grŵp a chorff cynrychioliadol fod â llais cryfach o ran dweud wrth yr heddlu beth maen nhw’n ei feddwl ydy’r pethau pwysicaf a beth maen nhw’n poeni amdano fwyaf wrth iddo fynd at i ddiweddaru ei gynllun Heddlu a Throsedd.
Mae’n trefnu cyfres o gyfarfodydd ymgynghori ar draws yr ardal er mwyn rhoi cyfle i bobl rannu eu syniadau, neu gall pobl nad ydynt yn gallu mynd i’r cyfarfodydd lenwi arolwg
Bydd un ai Mr Roddick neu ei ddirprwy, Julian Sandham, yn bresennol ym mhob cyfarfod.
Meddai Mr Roddick: "Mae Gogledd Cymru yn un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag o yn y DU ac rwyf eisiau sicrhau bod hyn yn parhau.
"Mae trosedd yn yr ardal wedi lleihau yn y blynyddoedd diweddar ac fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, fy ngwaith i ydy sicrhau bod y gostyngiad hwn yn un hirdymor..
"Fy amcan pennaf ydi gwneud yn siŵr fod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac mewn mannau cyhoeddus a bod yr Heddlu yn weladwy ac ar gael pan fo’u hangen fwyaf.
“Mae ‘na wahoddiad agored i bawb o bob rhan o’r gymuned roi eu barn.
“Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mae arnaf ddyletswydd statudol i ymgynghori â’r bobl leol ynghylch y blaenoriaethau plismona.
“Mewn ymgynghoriad â’r Heddlu, byddaf yn llunio Cynllun Heddlu a Throsedd ac er mwyn gwneud hynny mae angen i mi â’r heddlu fod yn ymwybodol o’r hyn y mae’r bobl leol yn credu y dylai’r blaenoriaethau fod.
"Fy nod yw sicrhau fod safbwyntiau, anghenion a disgwyliadau pob rhan o’r gymuned wedi eu hadlewyrchu yn y cynllun.
“O safbwynt trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydw i’n atebol i’r bobl felly mae’n bwysig iawn fy mod yn darganfod sut mae pobl yn meddwl y dylai’r ardal gael ei phlismona.
“Bydd y cynllun diweddaredig yn dweud mewn Cymraeg a Saesneg plaen pa lefel o wasanaeth y gall pobl ei ddisgwyl gan eu heddlu lleol
“Rwy’n cyfarfod â sawl unigolyn a sefydliad o ddydd i ddydd ac yn gwrando ar eu pryderon a’u barn ynglŷn â sut y gallwn wella’r gwasanaeth plismona.
“Mae’r newidiadau mwyaf dylanwadol yr wyf wedi eu gwneud hyd yma wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i’r hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrtha’ i.
"Bydd hawliau a buddiannau dioddefwyr wrth wraidd y Cynllun Heddlu a Throsedd a gyda hynny mewn golwg y sefydlwyd y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr newydd yn gynharach eleni yn ogystal â thimau arbenigol i wrthsefyll troseddau seiber a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant
Crëwyd y tîm troseddau cefn gwlad dynodedig ar ôl i’r cymunedau gwledig ddweud wrtha’ i nad oedd troseddau cefn gwlad yn cael eu delio â nhw’n effeithiol yng ngogledd Cymru; mae’r tîm hwn bellach wedi hen ennill ei blwyf yng ngogledd Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran taclo troseddau mewn cymunedau gwledig.
"Bydd y cynllun hefyd yn canolbwyntio ar adsefydlu troseddwyr gyda’r bwriad o leihau troseddu ac yn sgil hynny lleihau’r nifer o bobl sy’n dioddef troseddau.
“Pwrpas y Cynllun Heddlu a Throsedd yw sicrhau fod yr heddlu’n talu sylw penodol i’r pwyntiau y mae’r cyhoedd a minnau, ac yn wir yr heddlu ei hun, yn eu gweld yn rhai hollbwysig
“Rhan bwysig o fy rôl i fel Comisiynydd fydd cadw llygad ar sut y mae’r Heddlu’n cydymffurfio â’r cynllun a byddaf yn rymus iawn o ran eu dal nhw’n atebol ar ran pobl Gogledd Cymru.
Llun: Winston Roddick