Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Tachwedd 2015

Ehangu addysg Gymraeg

Mae angen gosod targed o gael 50% o ddisgyblion 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

Dyma un o brif alwadau RhAG wrth lansio maniffesto etholiadau’r Cynulliad yr wythnos hon.

Mae Iaith addysg, iaith gwlad, yn nodi prif flaenoriaethau’r mudiad ar gyfer datblygu ac ehangu addysg Gymraeg gan Lywodraeth nesaf Cymru.

Cynhelir y digwyddiad ar nos Fawrth 24 Tachwedd am 6yh yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd gyda nawdd trawsbleidiol gan Suzy Davies, Keith Davies, Aled Roberts AC a Simon Thomas AC.

Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: “Rydym yn falch o’r cyfle i amlinellu ein syniadau fel mudiad ar gyfer cyflymu twf addysg Gymraeg ledled Cymru.

"Mae RhAG o’r farn nad yw trefn bresennol hyrwyddo a chefnogi addysg Gymraeg yn ddigonol.

"Er bod rhaid i Awdurdodau Lleol gyflwyno Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, nid oes gan y cynlluniau hyn ddannedd go iawn.

"Yn gyffredinol mae awdurdodau lleol yn parhau i osgoi eu cyfrifoldebau sy’n golygu mai araf iawn yw’r twf ar hyn o bryd.

"Mae Iaith addysg, iaith gwlad yn manylu ar y prif feysydd sydd angen sylw dybryd, gan gynnwys mesur y galw, cyflymu twf ysgolion cynradd a’r sector cyn ysgol, cynyddu darpariaeth Dechrau’n Deg, marchnata addysg Gymraeg a chludiant.

"Byddai mynd i’r afael â’r materion hyn yn golygu bod cyrraedd targed o 50% o blant 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030 yn realistig.

“I sicrhau bod cynnydd pendant a chyflym yn digwydd, mae RhAG hefyd yn galw am lunio Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ystod tymor nesaf y Cynulliad er mwyn cryfhau’r seilwaith deddfwriaethol presennol.

"Ar hyn o bryd mae’r holl ddeddfwriaeth berthnasol yn ddarniog, annigonol neu wedi’i ymgorffori mewn deddfau eraill.

"Mewn sawl agwedd nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn bodoli o gwbl. Mae RhAG yn argymell llunio Bil a fyddai’n fodd o gwmpasu rhychwant anghenion y maes trwy dynnu ynghyd yr holl edeifion cyfreithiol presennol a chynnig eglurder cyfreithiol diamwys yn y dyfodol."

Dywedodd Suzy Davies AC: "Mae twf addysg Gymraeg yn y dyfodol yn dibynnu ar gael y system addysg yn iawn. Yr wyf yn edrych ymlaen at glywed pa syniadau sydd gan RhAG i helpu gyda hyn."

Ategodd Keith Davies AC: “Hoffwn groesawu cyhoeddiad maniffesto Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae gennym gyfrifoldeb i gynnal yr iaith Gymraeg fel iaith fyw ac fel iaith byw. Y ffordd orau i wneud hyn yw hybu’r Gymraeg fel iaith addysg.”

Meddai Simon Thomas AC: “Rydw i yn falch iawn o noddi'r digwyddiad.  Cred y Blaid mae angen sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg ar hyd y sbectrwm iaith gan gynnwys rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfle i gael addysg Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen.”

Ychwanegodd Aled Roberts AC: “Mae’n fraint cael noddi lansiad maniffesto RhAG wrth inni symud tuag at etholiadau’r Cynulliad. Mi fydd mewnbwn rhieni yn bwysig wrth inni gynllunio ar gyfer datblygiad pellach addysg cyfrwng Cymraeg.”

Llun: Simon Thomas

Rhannu |