Mwy o Newyddion
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Llinell Gymorth Paris Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod llinell gymorth wedi cael ei sefydlu i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis.
Mae Llinell Gymorth Paris Cymru, sydd ar gae lers ddoe, yn darparu gwasanaeth cyfrinachol sy’n rhoi cefnogaeth emosiynol, ac sydd hefyd yn cynnig clust i wrando, i ddinasyddion Cymru sy’n dychwelyd o Baris.
Bydd o gymorth hefyd i ffrindiau a pherthnasau unigolion a gafodd eu dal yn y digwyddiadau yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r llinell gymorth – Rhadffôn 0800 107 0900 neu anfonwch neges destun â’r gair ‘help’ i 81066 – yn cael ei chynnal gan staff sydd wedi cael eu hyfforddi gan y gwasanaeth Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol.
Mae’r gwasanaeth newydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Bydd y llinell gymorth hefyd yn rhoi gwybodaeth i bobl am ffynonellau eraill o gefnogaeth a chymorth os bydd arnynt eu hangen.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r ymosodiadau terfysgol ym Mharis yr wythnos ddiwethaf wedi achosi sioc ac wedi ein brawychu ni i gyd.
“Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid eraill yn gwneud popeth yn ein gallu i roi cefnogaeth a chymorth ymarferol i unrhyw un o Gymru sydd wedi cael ei effeithio gan yr ymosodiadau hyn.
“Bydd y llinell gymorth newydd hon yn cynnig mynediad 24 awr at staff sydd wedi’u hyfforddi a fydd yn gallu rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau ym Mharis.
“Bydd staff y llinell gymorth yn gallu rhoi cyngor ynghylch y gwasanaethau GIG Cymru mwyaf priodol i bobl sydd angen cymorth mwy arbenigol i’w helpu i ddelio â’r hyn maen nhw wedi bod drwyddi ac wedi’i weld.”