Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Tachwedd 2015

Cost trident yn cynyddu i £2,800 y pen

Cyn cyfrannu i ddadl yr wrthblaid ar Trident yn San Steffan heddiw, mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS wedi beirniadu’r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer adnewyddu’r system arfau niwclear, gan alw am gael gwared arni yn gyfan gwbl.

Yn dilyn yr Adolygiad Diogelwch ac Amddiffyn Strategol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddoe (Dydd Llun), mae’r CND (Campaign for Nuclear Disarmament) wedi cyfrifo y bydd cost adnewyddu Trident bellach yn swm anferth o £183 biliwn.

Mae gwrthwynebiad Plaid Cymru Trident yn hirsefydlog a amcan y blaid yw defnyddio dadl heddiw i amlygu’r diffyg achos moesol, economaidd a strategol dros gynnal arfau torfol dinistriol.

Wrth siarad cyn y ddadl sydd wedi ei noddi yn bennaf gan yr SNP a’i chefnogi gan Blaid Cymru, dywedodd Hywel Williams AS: “Mae’r digwyddiadau erchyll ym Mharis wedi ein hatgoffa fod y bygythiadau sy’n wynebu’r byd yn rhai cymleth a chyfnewidiol.

“Drwy dal gafael ar un o greiriau’r Rhyfel Oer yn ffurf Trident, mae Llywodraeth y DG yn methu cydnabod y ffactorau hyn.

“Mae bygythiadau cyfoes yn gofyn am bolisi amddiffyn cyfoes. Dylai gwariant ar ddiogelwch yn yr 21ain ganrif ganolbwyntio ar daclo eithafiaeth a therfysgaeth-seibr, a chadw ein strydoedd yn saff.

“Mae un peth yn glir – ni fydd hyn yn cael ei sicrhau os yw’r Canghellor yn defnyddio’r Adolygiad Gwariant fory i wneud toriadau enfawr o rhwng 25-40% i’n gwasanaethau heddlu.

“Gyda’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod disgwyl i Trident gostio swm anferth o £183 biliwn dros oes y system, nid oes unrhyw achos moesol, economaidd na strategol yn bodoli dros gynlluniau’r Llywodraeth i’w adnewyddu.

“Mae hyn yn gyfystyr a £2,800 am bob person sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol. Pan fo gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael eu torri’n ddi-drugaredd ac isadeiledd angen buddsoddiad sylweddol, nid oes modd amddiffyn hyn.

“Mae Plaid Cymru’n edrych ymlaen at ddefnyddio dadl heddiw i leisio’r dadleuon niferus yn erbyn adnewyddu Trident.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein cynnig yn dennu cefnogaeth ASau o bob pegwn o’r sbectrwm gwleidyddol sy’n credu fod gwario ar iechyd ac addysg yn bwysicach na gwastraffu biliynau ar arfau torfol dinistrol.”

Rhannu |