Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Tachwedd 2015

Bws o Lŷn i Ysbyty Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol O Ddrws i Ddrws i dreialu cynllun bws sy’n cludo pobl o Lŷn i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae’r cynllun ar-alw yn cludo pobl o bentrefi yn Llŷn i Ysbyty Gwynedd, Bangor pob pnawn Llun, Mercher, a Gwener. Mae’r cynllun peilot yn ei le tan fis Ionawr yn y lle cyntaf.

Bydd yn codi pobl o bentrefi Llŷn gan gychwyn yn Aberdaron am 12pm, i gyrraedd Bangor erbyn 1.30pm ac yn cychwyn yn ôl, fan bellaf 4pm i gyrraedd adref erbyn 5.30pm. 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer trafnidiaeth: “Mae trafnidiaeth fel hyn yn rhoi hyblygrwydd i bobl hŷn neu unigolion sy’n methu gyrru i fynd i’r ysbyty ym Mangor yn ddi-ddrafferth.

"Mae’r cynllun hwn yn gyfleus ar gyfer amseroedd ymweld teulu a ffrindiau rhwng 1.30-2.30 ac hefyd ar gyfer apwyntiadau byr.

“Mae’n gynllun i’w gymeradrwyo’n fawr ac rydan ni’n gobeithio y bydd y cynllun yn adnodd ychwanegol gwerthfawr i drigolion Llŷn.

"Diddorol fydd gweld dros y misoedd nesaf os ydi cynllun o’r fath yn rhywbeth y dylid ystyried ei gyfnod i’r dyfodol ac mewn ardaloedd eraill o’r sir.”

Cost y daith yw £1 bob ffordd, ac mae’n rhaid bwcio o flaen llaw i gael lle ar y bws. I gadw lle, ffonio 01758 721 777 neu e-bostio oddrwsiddrws@yahoo.co.uk

Cynllun peilot am gyfnod yw’r gwasanaeth yma. Ni fydd yn golygu newid i wasanaeth arferol personol O Ddrws i Ddrws.

Ni fydd y gwasanaeth ar gael rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr.

Llun: Y Cynghorydd Dafydd Meurig

Rhannu |