Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Tachwedd 2015

Côr bechgyn yn dychwelyd i lwyfan y Pafiliwn ar gyfer cyngerdd Nadolig yr Eisteddfod

Mae côr bechgyn a gafodd gymeradwyaeth frwd ar ôl canu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y llynedd yn dychwelyd i berfformio yng nghyngerdd Nadolig yr ŵyl.

Ffurfiwyd Côr Bechgyn y Rhos, sef adran iau Côr Meibion byd-enwog y Rhos, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl ond mae’r bechgyn eisoes wedi denu llawer o sylw.

Yn ei ail ymddangosiad cyhoeddus yn unig, cyflwynodd 25 aelod y côr i bobl ifanc rhwng saith a 12 oed, berfformiad gorchestol yn ystod seremoni wobrwyo gofiadwy cystadleuaeth Côr Plant y Byd yn Eisteddfod Gorffennaf 2014.

Ar sail hynny mae’r côr yn awr wedi cael ei wahodd yn ôl i’r Pafiliwn Rhyngwladol eiconig ar ddydd Sul 13 Rhagfyr i ymddangos yng nghyngerdd Nadolig blynyddol Pwyllgor Cerdd a Llwyfan yr Eisteddfod.

Ar y noson fawr, sy’n dechrau am 7.30pm, bydd y côr bechgyn yn ymuno â sêr cerddorol arbennig eraill, gan gynnwys TRIO, ensemble o hogiau ifanc o galon Eryri, a Cherddorfa Gwlad Llinynnol Sir y Fflint.

Sylfaenydd a chyfarwyddwr cerdd y côr bechgyn yw Aled Phillips, pennaeth cerdd yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen ac mae hefyd yn gyn-gyfarwyddwr cerdd Côr Meibion ??y Rhos.

Dywedodd: “Mi wnaethon ni benderfynu sefydlu’r côr oherwydd ein bod yn awyddus i gyflwyno bechgyn iau i ganu corawl.

“Roeddem hefyd yn credu, pe bai bechgyn yn datblygu cariad at y math yna o ganu y byddent efallai yn dymuno aros ymlaen ac yn y diwedd yn ymuno â’r côr llawn.

“Ffurfiwyd y côr a llwyddwyd i ddenu llawer o ddiddordeb. Yn wir, fy mab i fy hun, Tomos, sydd bellach yn naw oed, oedd un o’r aelodau cyntaf ac mae’n dal i ganu yn yr adran trebl.

“Mae’r côr yn ymarfer bob dydd Iau yn y Stiwt yn y Rhos, o 5.30-6.30pm, ac rydym yn croesawu aelodau newydd.”

Daeth perfformiad cyhoeddus cyntaf y côr newydd yn y gwanwyn y llynedd pan ganodd yn y cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi blynyddol yn Theatr y Stiwt yn y Rhos a derbyn croeso gwresog gan y gynulleidfa fawr oedd yno.

Mi wnaeth y côr ymddangos wedyn ochr yn ochr â chôr hŷn y Rhos, a oedd yn golygu bod nifer o’r bechgyn yn rhannu llwyfan gyda’u tadau, eu teidiau a’u hewythrod.

Yna daeth yr ymddangosiad cofiadwy yn yr Eisteddfod pan berfformiodd y bechgyn y gân werin Gymraeg draddodiadol Sosban Fach a chân Gary Barlow, Let Me Go, yn ystod seremoni cyflwyno gwobrau côr y plant.

Cafwyd diweddglo mawreddog y llynedd i’r côr gyda recordio dwy gân ar gyfer CD Nadolig y côr hŷn, Noe! Noe!

Ym mis Medi eleni enillodd y bechgyn ganmoliaeth pellach pan gawsant eu gwahodd i ganu ar yr un llwyfan a Thri Tenor Cymru - Rhys Meirion, Aled Hall ac Aled Wyn Davies - mewn cyngerdd yn Neuadd William Aston Prifysgol Glyndŵr i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Hosbis Tŷ’r Eos.

A byddant yn dychwelyd i’r un lleoliad ar 14 Tachwedd pan fyddant yn ymuno â gweddill y perfformwyr yng nghyngerdd blynyddol Côr Meibion ??y Rhos, gan gynnwys Luis Gomes, y tenor o Portiwgal, a Meinir Wyn Roberts, y soprano o Gaernarfon a enillodd wobr Llais y Dyfodol yn Eisteddfod Llangollen eleni.

Dywedodd cyfarwyddwr cerdd y côr Aled Phillips, mai bwriad y bchgyn ar ôl hynny yw rhoi sglein ar eu perfformiad ar gyfer y cyngerdd Nadolig ar lwyfan Pafiliwn Llangollen.

Dywedodd: “Byddwn yn canu pedair cân Nadolig ar y noson - dwy yn Gymraeg a dwy yn Saesneg.

“Y caneuon Cymraeg fydd Nadolig Llawen gan Caryl Parry Jones a Mae’na Faban Bach gan Robat Arwyn a’r caneuon Saesneg fydd Mistletoe gan Justin Bieber a Where Are You Christmas gan Faith Hill a ddefnyddiwyd yn y ffilm The Grinch.

“Mae pawb yn y côr yn edrych ymlaen at fod yn ôl ar lwyfan Pafiliwn Llangollen ar ôl ein hymddangosiad yn yr Eisteddfod y llynedd a’r hwb aruthrol a gawsom wrth brofi ymateb y gynulleidfa i ni.

“Mae’n mynd i fod yn ddechrau gwych i’r Nadolig.”

Hon fydd y drydedd flwyddyn i’r Eisteddfod gynnal cyngerdd Nadolig ac mae’r digwyddiad wedi ennill ei le yn gyflym fel dyddiad poblogaidd yng nghalendr yr ŵyl.

Arweinydd y noson fydd Nic Parry, y sylwebydd chwaraeon a’r barnwr Uchel Lys, sy’n wyneb cyfarwydd ar y prif lwyfan yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a bydd y noson hefyd yn arddangos talentau TRIO, ensemble o fechgyn ifanc o Eryri.

Mae’r triawd, sydd newydd ryddhau eu halbwm gyntaf o’r un enw, yn disgrifio eu hunain fel “profiad canu newydd” ac mae ganddynt repertoire dwyieithog eang.

Hefyd yn ymddangos fydd Cerddorfa Gwlad Llinynnol Sir y Fflint, dan arweiniad Aled Tudor Marshman, sy’n rhan o Ysgol Cerddoriaeth Ieuenctid Sir y Fflint, sydd wedi  bod yn hynod lwyddiannus ers ei sefydlu yn 1996.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r gerddorfa wedi perfformio mewn llu o ddigwyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop gan gystadlu  hefyd yn yr Ŵyl Genedlaethol Cerddoriaeth i Ieuenctid, sef y digwyddiad cerddorol mwyaf o’i fath yn Ewrop.

Dywedodd Elen Roberts, cadeirydd Pwyllgor Cerdd a Llwyfan yr Eisteddfod: “Mae’r rhaglen ar gyfer cyngerdd eleni yn gyforiog o berfformwyr profiadol a thalentau newydd ac mae’n addo bod yn gracer Nadolig go iawn!

“Rwy’n gwybod bod pob un o’r perfformwyr wrth eu bodd o gael cymryd rhan yn y dathliad Nadoligaidd yma o gerddoriaeth ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu croesawu nhw, ac wrth gwrs ein cynulleidfa, i Langollen.

“Rydym yn falch iawn o allu cynnwys doniau lleol cynhenid ??arbennig fel Côr Bechgyn y Rhos sydd wedi cyflawni cymaint yn yr amser byr ers ei sefydlu dan arweiniad gwych Aled Phillips.

“Mae hefyd yn dda gallu cyflwyno Cerddorfa Linynnol Sir y Fflint, gan fod gen i gysylltiad agos â nhw yn rhinwedd fy ngwaith gyda Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint.”

Am fwy o wybodaeth neu i brynu tocynnau i’r cyngerdd, ewch i wefan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn www.international-eisteddfod.co.uk. Pris y tocynnau yw £10 (gostyngiadau £8) a gellir hefyd eu prynu yn uniongyrchol oddi wrth y swyddfa docynnau yn y Pafiliwn, neu o Ganolfan Groeso Llangollen.

Llun: Côr Bechgyn y Rhos gyda, o’r chwith, Tri Thenor Cymru, Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins, a Chyfarwyddwr Cerdd y côr, Aled Phillips.

Rhannu |