Mwy o Newyddion
Mwy o alw am fanciau bwyd yng Nghymru yn achos pellach dros amddiffyn credydau treth
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i ffigyrau sy’n dangos, rhwng Ebrill a Medi 2015 fod nifer y bobl a dderbyniodd werth tridiau o fwyd mewn argyfwng gan fanciau bwyd yn 39,245, cynnydd o’r un amser llynedd. Dywedodd fod y ffigyrau yn adlewyrchiad o fethiant parhaus economeg llymder, a galwodd am dro pedol parhaol ar y newidiadau arfaethedig i gredydau treth mewn gwaith allai daflu mwy o bobl ymhellach i dlodi.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Y DG yw un o economïau mwyaf y byd, gyda nifer mwy nac erioed o filiwnyddion, a bonysau bancwyr yn ôl i’r hyn oeddent cyn y cwymp. Mae’n annerbyniol ar yr un pryd fod nifer y bobl sy’n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru wedi codi i bron i 40,000 o bobl mewn un cyfnod o chwe mis yn unig.
“Aeth 14,000 o’r cyflenwadau brys o fwyd am dridiau i blant – gwyddom fod traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi.
“Nid dyma’r math o gymdeithas mae Plaid Cymru eisiau i bobl fyw ynddi. Gwyddom fod economeg llymder o San Steffan wedi cyflwyno anghydraddoldeb, wedi cosbi’r sawl sydd â’r lleiaf, ac wedi arwain at bobl yn newynu.
“Os aiff cynlluniau i dorri credydau treth pobl ar gyflogau isel yn eu blaenau, yna gallwn ddisgwyl mwy o alw ar fanciau bwyd a mwy o bobl yn cael trafferth i roi bwyd ar y bwrdd.
“Nid fel hyn y dylai Cymru edrych yn 2015.
“Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DG i roi’r gorau am byth i’w toriadau i gredydau treth mewn gwaith ac yr ydym eisiau gweld ein Cynulliad Cenedlaethol yn meddu ar fwy o fecanweithiau i ddileu tlodi, cyflwyno ffyniant a chefnogi pobl ar incwm isel.”