Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Tachwedd 2015

Croesawu pwerau treth incwm heb refferendwm

Mae Jonathan Edwards AS Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw yn yr Adolygiad Gwariant yn nodi y bydd Cymru yn derbyn pwerau treth incwm heb refferendwm - buddugoliaeth i Blaid Cymru, y cyntaf i ddadlau am newid o'r fath.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Jonathan Edwards AS: "Mae'r newyddion hyn i'w groesawu ac yn cynrychioli buddugoliaeth sylweddol i Blaid Cymru.

"Am flynyddoedd bellach, rydym wedi dadlau fod yr egwyddor o ymreolaeth ffisgal wedi ei ildio'n barod drwy ddatganoli trethi bychan.

"Golyga hyn y byddai'r refferendwm wedi bod yn wastraff amser ac adnoddau llwyr, ac rydym yn falch fod Llywodraeth y DG wedi gweld y goleuni ar y mater hwn o'r diwedd.

"Serch hyn, mae Plaid Cymru yn credo nad yw pwerau treth incwm yn unig yn ddigon. Rydym eisiau i Gymru gael cynnig yr un pwerau ariannol a chyllidol sydd ar gynnig i wledydd eraill y DG.

"Mae'r Alban wedi cael pwerau treth incwm llawn heb refferendwm a bydd Gogledd Iwerddon yn derbyn grym dros dreth corfforaethol. Nid yw Cymru yn genedl eilradd ac nid oes unrhyw reswm yn y byd pam na ddylai San Steffan gynnig yr un bargen i ni.

"Dim ond wedyn y bydd gan Llywodraeth Cymru yr offer angenrheidiol i wneud y penderfyniadau a'r newidiadau fydd yn gweithio er budd yr economi Gymreig, nid y Trysorlys yn San Steffan."
 

Rhannu |