Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Tachwedd 2015

Annog dathliad i ddilynwyr pêl-droed Cymru cyn pencampwriaethau Ewrop

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Chwaraeon, Bethan Jenkins AC, wedi galw eto am gynnal digwyddiad dathlu i beldroedwyr Cymru cyn iddynt adael am Bencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Mae AC Gorllewin De Cymru wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol a Chymdeithas Pêl-droed Cymru, yn ogystal â’r Prif Weinidog, i godi’r mater.

Dywedodd Bethan Jenkins, sydd wedi codi’r mater gyda swyddogion Chwaraeon Cymru: “Dylid nodi llwyddiannau gwych tîm pêl-droed Cymru cyn i Chris Coleman, Ashley Williams a gweddill y tîm adael am y pencampwriaethau. A dylai’r cefnogwyr hefyd gael cyfle i ffarwelio â’r tîm gyda dymuniadau da a chefnogaeth y genedl.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal derbyniad yn eu swyddfeydd ym Mharc Cathays i’r tîm a’r staff ategol ddydd Sadwrn diwethaf, ond canslwyd hwnnw yn sgil yr ymosodiad gan derfysgwyr ym Mharis.

“Ond dylai hyn fod yn na dim ond criw o wleidyddion yn cael tynnu eu lluniau gyda’n sêr pêl-droed. Dylid ei ehangu i gynnwys y cyhoedd, y cefnogwyr fydd yn teithio i Ffrainc ym mis Mehefin nesaf, a hefyd y sawl fydd eisiau gwylio yn ôl yng Nghymru.

“Bydd gan Gymru gemau cyfeillgar y flwyddyn  nesaf cyn y twrnamaint, felly fe ddylai cyfle godi i gynnal rhywbeth o gwmpas Bae Caerdydd heb darfu ar ymgyrch y tîm. Dim ond mymryn o fenter sydd ei angen.

“Y twrnamaint pêl-droed y flwyddyn nesaf fydd y tro cyntaf i’r wlad ymddangos mewn digwyddiad o’r fath ers 1958 a rhaid i ni nodi hynny fel cenedl.”

Mae Bethan Jenkins hefyd eisiau gweld parthau i gefnogwyr yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Bangor fel y gall cefnogwyr wylio gemau'r pencampwriaethau Ewropeaidd.

Rhannu |