Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Tachwedd 2015

Adnewyddu Trident yw’r ateb anghywir i’r cwestiwn anghywir

Dylai llywodraeth y DG ddileu ei rhaglen hen-ffasiwn i adnewyddu Trident er mwyn buddsoddi mewn mesurau fydd yn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel, dywedodd Plaid Cymru heddiw.

Bydd y Blaid yn dadlau heddiw mai’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu ein cymunedau yw ymosodiadau terfysgol, seibr-ymosodiadau a rhyfela, gan ddadlau na fydd rhaglen hen-ffasiwn Trident yn mynd i’r afael â’r bygythiadau hyn.

Amcangyfrifir y bydd adnewyddu Trident yn costio dros £167 biliwn. Bydd Plaid Cymru heddiw yn galw am arian i gael ei gyfeirio yn hytrach at ymdrechion i amddiffyn ein cymunedau, trin radicaleiddio, ac i’r DG weithio gyda’i chynghreiriaid trwy ymdrechion dyngarol rhyngwladol dros heddwch a chymod.

Meddai Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru: “Mae diogelwch ein cymunedau yn hollbwysig, ac ni fydd adnewyddu Trident yn ein gwneud yn saffach. Trident yw’r ateb anghywir i’r cwestiwn anghywir.

“Byddai adnewyddu Trident yn anfoesol ar unrhyw adeg, ond mae natur y bygythiadau rydym yn wynebu yn tanlinellu mor ddiwerth ydyw.

“Ymysg y peryglon mwyaf rydym yn wynebu mae terfysgaeth, seibr-ymosodiadau a rhyfela – fydd dim modd atal yr un o’r rhain trwy daflu biliynau o bunnoedd i system newydd o arfau niwclear.

“Bydd Plaid Cymru heddiw yn galw am i Lywodraeth y DG beidio â buddsoddi £167 biliwn a mwy ar adnewyddu diangen Trident. Rydym eisiau gweld arian yn cael ei fuddsoddi mewn mesurau fydd yn gwarchod ein cymunedau, yn trin radicaleiddio, ac i weithio gyda’n cynghreiriad trwy ymdrechion dyngarol rhyngwladol dros heddwch a chymod.”

Rhannu |