Mwy o Newyddion
-
Rhaid i Gymru gael pŵer i hybu’r economi
21 Mehefin 2013Heddiw mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw o’r newydd ar i Lywodraeth y DU ddatganoli cyfrifoldeb dros brosiectau ynni mawr i Gymru, er mwyn hybu’r economi a chreu swyddi. Darllen Mwy -
Y Llywydd yn derbyn ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones
21 Mehefin 2013Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi talu teyrnged i Ieuan Wyn Jones, cyn-Arweinydd Plaid Cymru, yn dilyn ei ymddiswyddiad. Darllen Mwy -
Chwaraeon rhwyfo yn prysur ddod yn gamp fawr yng Nghymru
21 Mehefin 2013Bydd canwyr gorau’r byd yn dod i Gymru y penwythnos yma (21-23 Mehefin) i gystadlu yng Nghwpan Slalom Canŵio’r Byd yng nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (CIWW). Darllen Mwy -
Y Llywydd yn cefnogi prosiect celfyddydol y gymuned Romani
21 Mehefin 2013Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn mynd i Arddangosfa'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, SHINE. Darllen Mwy -
Achosion o diabetes wedi cyrraedd lefel ‘epidemig’ yng Nghymru
21 Mehefin 2013Mae un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod angen cymryd camau ar frys i fynd i’r afael â’r hyn y mae’n ystyried i fod yn ‘epidemig’ o achosion o diabetes yng Nghymru. Darllen Mwy -
Croesawu adroddiad a allai newid ffurf a strwythur y ddarpariaeth addysg yng Nghymru er gwell
21 Mehefin 2013Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi croesawu adroddiad annibynnol pwysig sydd wedi'i gyhoeddi, a allai arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau addysg eu darparu yng Nghymru. Darllen Mwy -
Penodi pedwar i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg
14 Mehefin 2013Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bod wedi penodi pedwar darlithydd cyfrwng Cymraeg newydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Darllen Mwy -
Cyhoeddi manylion Maes C gyda 50 diwrnod i fynd
14 Mehefin 2013Daw diwedd ar gyfnod yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth i Edward H Dafis gynnal eu cyngerdd olaf un ar y llwyfan perfformio. Darllen Mwy -
Calendr Natur yn amlygu bywyd gwyllt Bae Abertawe
14 Mehefin 2013Mae llamhidyddion yr harbwr, corystlumod a hel-lys ysbigog ymysg yr amrywiaeth cyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion y gall pobl ei ddarganfod ym Mae Abertawe dros y misoedd sydd i ddod.[image depicting Swansea Bay View] Darllen Mwy -
Tafwyl yn help i’r Gymraeg ffynnu yn y brifddinas
14 Mehefin 2013Cyn iddo fynd i brif ddigwyddiad Tafwyl, bu Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn canu clodydd yr ŵyl am wneud gwaith pwysig yn hybu defnydd o’r iaith yn y brifddinas. Darllen Mwy -
Cymry Caerdydd yn galw ar gyngor Caerdydd i ail-ystyried toriadau
14 Mehefin 2013Mae rhai o Gymry Cymraeg mwyaf adnabyddus Caerdydd wedi llofnodi llythyr cyhoeddus at Gyngor Dinas Caerdydd yn mynegi eu pryder am gwtogiadau i wasanaethau Cymraeg ychydig ddyddiau cyn gwyl fawr yn y ddinas. Darllen Mwy -
Tafwyl - Disgwyl miloedd i'r ŵyl gymunedol fwyaf o'i bath yng Nghymru
14 Mehefin 2013Mae disgwyl hyd at ddeng mil o bobl yng Nghastell Caerdydd fory ar gyfer y ffair flynyddol Tafwyl. Dyma'r ail flwyddyn i'r ŵyl gymunedol Gymraeg gael ei chynnal ar dir y castell a mae bellach wedi dod yn rhan allweddol o galendr diwylliannol y brifddinas. Darllen Mwy -
Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn Dychwelyd yn 2014
14 Mehefin 2013Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd i Barc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin o ddydd Gwener 20 – dydd Sul 22 Mehefin 2014. Darllen Mwy -
Llwyth o fandiau Cymraeg i ymuno efo’r Manics a Neon Neon yng Ngŵyl Rhif 6
14 Mehefin 2013Mae Gŵyl Rhif 6 yn falch i gyhoeddi leinyp difyr a dethol sy’n cynrychioli’r gorau o’r byd canu cyfoes Cymraeg ar lwyfan newydd sy’n dwyn enw pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis. Darllen Mwy -
Plannwch goed i fynd i'r afael â llifogydd
14 Mehefin 2013Mae 357,000 o adeiladau yng Nghymru, sef un o bob chwech, yn awr mewn perygl o lifogydd. Darllen Mwy -
Mynnu gweithredu wrth i dlodi plant yng Nghymru godi i 1 mewn 3
14 Mehefin 2013Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC wedi galw am fwy o weithredu ar dlodi plant wedi i ffigyrau newydd a ryddhawyd ddoe ddangos fod traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Darllen Mwy -
Gwerth Economaidd S4C ddwbl ei chyllideb flynyddol
14 Mehefin 2013Mae S4C wedi datgelu bod astudiaeth economaidd wedi dangos bod pob punt y mae’r sianel yn ei wario ar gynnwys yn creu bron i ddwy bunt o werth ychwanegol i economi Cymru. Darllen Mwy -
Cyfleoedd newydd i wirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol
06 Mehefin 2013Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Gwirfoddoli yr wythnos hon, ac fel rhan o’r gweithgareddau mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cynllun newydd, ‘Yma i Helpu’, sy’n cynnig rhagor o gyfleoedd i wirfoddoli yn y Brifwyl. Darllen Mwy -
Dathlu’r berthynas unigryw rhwng Cymru ac UNESCO
06 Mehefin 2013Bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn agor Colocwiwm UNESCO Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw Darllen Mwy -
Newyddion y Cynulliad a chyfryngau digidol
06 Mehefin 2013Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu ffigurau adnabyddus o fyd y cyfryngau digidol a chymunedol yng Nghymru i gynhadledd yn y Pierhead ar 12 Mehefin. Darllen Mwy