Mwy o Newyddion
Mynnu gweithredu wrth i dlodi plant yng Nghymru godi i 1 mewn 3
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC wedi galw am fwy o weithredu ar dlodi plant wedi i ffigyrau newydd a ryddhawyd ddoe ddangos fod traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi.
Yr oedd y ffigyrau am 2011-12 yn rhan o’r adroddiad Aelwydydd Islaw Incwm Cyfartalog gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gyda 33% o blant Cymru yn byw mewn cartrefi gydag incwm o lai na 60% o incwm cyfartalog y DG ar ôl costau tai. Yng Nghymru, mae hyn yn gynnydd o 2% ar ffigyrau llynedd –12,000 o blant eraill mewn tlodi, sy’n dod a’r ffigwr i ryw 200,000 yng Nghymru.
Ar hyd y DG, dim ond Llundain fewnol sydd â chanran uwch o blant mewn tlodi.
Yn waeth byth, mae gan gwpl gyda phlant ar lefel tlodi incwm o £1,600 yn llai nac yn 2007/08, gostyngiad o 8%, sy’n dangos sut y mae cyflogau yn cael eu gwasgu.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC: “Mae Plaid Cymru eisiau gweld diwedd ar dlodi plant yng Nghymru.
“Fodd bynnag, mae’n anodd iawn gwneud hyn os nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr ddim rheolaeth dros ei economi ei hun, os nad oes ganddi bwerau i godi ei harian ei hun a dim llais ar nawdd cymdeithasol.
“Mae gwleidyddiaeth llymder, sy’n cael ei gefnogi gan dair plaid fawr San Steffan, wedi difrodi a dadwneud gostyngiadau cynharach mewn tlodi plant yng Nghymru. Mae gwleidyddiaeth llymder wedi creu awyrgylch o ansicrwydd swyddi ac incwm, yn ogystal â thoriadau i fudd-daliadau. Mae hefyd yn gostwng cyflogau.
“Dengys y ffigyrau hyn na all y Cynulliad Cenedlaethol fod yn darian effeithiol i blant yn erbyn byw mewn tlodi.
“Faint bynnag y gellir cefnogi teuluoedd trwy’r system addysg a thrwy fentrau i hybu cynhwysiant cymdeithasol, daw rhai o’r problemau economaidd sylfaenol hyn o’r argyfwng ariannol ac nid oes modd eu dadwneud.
“Gwnaed y penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd anghywir ac y maent yn cael eu gwneud yn Llundain ar ein rhan, heb lais gan Lywodraeth Cymru.
“Y bobl ar yr incwm isaf, y rhai gwaethaf eu byd, a menywod, sy’n dwyn baich trymaf yr argyfwng economaidd hwn.
“I drin tlodi plant, rhaid trin tlodi menywod a rhaid atal y diwygio i’r drefn les.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i sicrhau fod swyddi yn talu cyflogau da a buasem yn cynllunio i greu swyddi a chyfleoedd newydd am waith ym mhob rhan o Gymru.”