Mwy o Newyddion
Cyhoeddi manylion Maes C gyda 50 diwrnod i fynd
Allwch chi gredu mai dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan diwrnod llawn cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau? Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi hedfan, ac erbyn hyn mae’r gwaith wedi cychwyn ar y Maes a’r trefniadau terfynol yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn ceisio sicrhau llwyddiant yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.
Gyda’r cyngherddau hwyrol a manylion Maes B eisoes wedi’u cyhoeddi, mae’n bryd cyhoeddi manylion gweithgareddau Maes C yn yr Eisteddfod eleni. Unwaith eto, cynhelir y rhan fwyaf o nosweithiau Maes C o amgylch y Maes, gan ddefnyddio nifer o wahanol leoliadau ar gyfer gweithgareddau. Mae nifer o sïon am wahanol weithgareddau a nosweithiau wedi bod ar led ers wythnosau, felly mae’n bryd cyhoeddi’r manylion i gyd unwaith ac am byth!
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Rwy’n gobeithio y bydd rhaglen Maes C eleni’n apelio at ein cefnogwyr, ac yn bydd yn darparu nosweithiau a gweithgareddau ychydig yn wahanol yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae’r rhaglen yn amrywiol ac yn gymysgedd dda o gerddoriaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth a drama, a gobeithio bod rhywbeth yn y rhaglen a fydd yn apelio at bawb. Dros y blynyddoedd mae Maes C wedi dod yn rhan bwysig o wythnos yr Eisteddfod, ac rwy’n sicr y bydd pobl yn gweld datblygiad pellach yn yr arlwy eleni. Gobeithio felly y bydd ymwelwyr yn tyrru i’r gweithgareddau yn ystod y Brifwyl.”
Bydd yr hwyl yn cychwyn nos Sadwrn gyda chwis yng nghaffi’r maes carafanau. Dyma gyfle i ddod i adnabod eich cymdogion yn y garafán drws nesaf, a chymryd rhan mewn noson llawn hwyl – a dipyn o gystadleuaeth! Does dim rhaid aros yn y maes carafanau i ddod draw i’r cwis, mae croeso mawr i bawb.
Nos Sul, y Babell Lên fydd man cychwyn yr hwyl a sbri, gyda sioe arbennig ar gyfer y plantos lleiaf. Bydd Cyw a’i ffrindiau’n galw draw i’n gweld, felly gwnewch yn siwr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd er mwyn cael cyfle i gyfarfod pawb! Yna, draw at y llwyfan perfformio i fwynhau set gerddorol i’r teulu.
Nos Fawrth bydd cyfle i ddysgu mwy am dafarndai Dinbych wrth i ni eich tywys ar daith o amgylch rhai o dafarndai hanesyddol y dref. Cawn alw i mewn i amryw o lefydd wrth i ni grwydro tref hynafol Dinbych yn clywed rhai o hanesion a straeon y tai tafarn, ac yn sicr bydd cyfle i gael blas ar gynnyrch a’r hyn sydd ar werth mewn un neu ddau!
Mae’r adloniant yn parhau nos Fercher pan y cawn gyfle i ymweld â’r Babell Lon am y tro cyntaf. Y Babell Lon? Ie, wir, noson gomedi draw yn y Babell Lên. Yn dilyn llwyddiant y Gala Gomedi y llynedd, mae’r digrifwyr yn ôl. Cawn gyfle i fwynhau Daniel Glyn, Gary Slaymaker, Rhian ‘Madam Rygbi’ Davies, Phil Evans, Beth Angell, a Steffan Alun, mewn noson arbennig sy’n addas ar gyfer y rheini dros 16 oed.
Nos Iau, cynhelir gig Maes C@Y Pafiliwn, ac eleni, cawn gyfle i fwynhau Bryn Fôn yn canu cymysgedd o hen ffefrynnau a chaneuon newydd, gan ei fod wedi bod wrthi’n ysgrifennu a chyfansoddi albwm newydd dros y misoedd diwethaf, felly dyma gyfle i glywed peth o ddeunydd newydd un o sêr mwyaf y sîn Gymraeg. Bydd dau gerddor ifanc yn ymuno gyda Bryn, ac yn rhoi’u stamp eu hunain ar rai o’i ganeuon – Casi Wyn o Fangor ac Ynyr Llwyd o Ddinbych. Felly dewch draw i’r Pafiliwn am noson o adloniant pur.
Os mai drama sy’n mynd â’ch bryd, bydd cefnogwyr Maes C ar ben eu digon ddydd Iau, wrth i ni ganolbwyntio ar fyd y ddrama a theatr o ganol prynhawn ymlaen. Bydd gweithgareddau’n cychwyn am 14.00 yn y Theatr, wrth i Gareth Potter berfformio detholiad o’i sioe un-dyn ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’. Yna, bydd Gareth yn sôn am y sioe a’i themâu mewn sesiwn arbennig yng Nghaffi’r Theatrau. Draw wedyn i adeilad theatrgenedlaethol@eisteddfod erbyn 16.00 i fwynhau dangosiad o ffilm eiconig Prosiect Datblygu A1, sy’n olrhain hanes y grwp Datblygu.
Bydd cyfle hefyd i fwynhau sioe hwyliog Genod y Calendr addasiad Marlyn Samuel o’r ddrama ‘Calendar Girls’ gan Theatr Fach Llangefni, a bydd cyfle i weld y ddrama hon nos Wener yn y Theatr hefyd os nad oes modd dod atom nos Iau.
Daw diwedd ar gyfnod nos Wener wrth i Edward H Dafis gynnal eu cyngerdd olaf un ar y llwyfan perfformio. Bu Edward H yn un o grwpiau blaenaf a phwysicaf Cymru am flynyddoedd lawer, ond daeth diwedd ar eu cyfnod, a byddwn yn dathlu’u gyrfa wrth iddyn nhw berfformio un set olaf ar Faes yr Eisteddfod. A fel petae hynny ddim yn ddigon, bydd Maffia’n chwarae set hwyr ar y llwyfan perfformio gyda’r nos. Wrth gwrs fyddai nos Wener yn y ‘Steddfod ddim yn nos Wener heb y Stomp, a dyw eleni’n ddim gwahanol, felly dewch draw i’r Babell Lên am noson o rialtwch barddonol blynyddol.
Bydd gweithgareddau Maes C yn gorffen nos Sadwrn ar y Llwyfan Perfformio, pan gawn gyfle i fwynhau noson wahanol iawn – noson côr-i-oci Steddfod, gyda chyfle i ganu carioci gyda band byw ar y llwyfan, gyda phob math o ganeuon Cymraeg o bob cyfnod ar gael i’w canu. Gyda chystadlaethau’r corau mawr ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Sadwrn a’r corau i gyd yn mynd draw i’r bar ar ôl canu, mae safon y canu’n sicr o fod yn uchel, ac yn ddi-os, bydd elfen gystadleuol wrth i’r cythraul canu gydio ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod!
Mae nifer o weithgareddau Maes C yn rhad ac am ddim, ond bydd angen tocyn ar wahân ar gyfer noson Y Babell Lon, gig Maes C@Y Pafiliwn a’r Stomp. Tocynnau ar gael o wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau o 2-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.
Llun: Edward H Dafis