Mwy o Newyddion
Tafwyl yn help i’r Gymraeg ffynnu yn y brifddinas
Cyn iddo fynd i brif ddigwyddiad Tafwyl yfory, bu Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn canu clodydd yr ŵyl am wneud gwaith pwysig yn hybu defnydd o’r iaith yn y brifddinas.
Gŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal dros wythnos yw Tafwyl. Sefydlwyd yr ŵyl gan Menter Caerdydd er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.
Ers sefydlu’r digwyddiad diwylliannol unigryw hwn yn 2006, mae wedi mynd o nerth i nerth. Rhoddwyd grant o £20,000 i’r ŵyl gan Lywodraeth Cymru’n gynharach eleni.
Bydd y Gweinidog yn mynd i uchafbwynt yr wythnos, sef Ffair Tafwyl. Diwrnod o hwyl a gynhelir yng Nghastell Caerdydd yw hwn. Mae’n cynnwys sesiynau llenyddol, perfformiadau cerddorol byw, gweithgareddau chwaraeon ac amryw stondinau sy’n hyrwyddo cynnyrch o Gymru.
Bydd y Gweinidog yn annerch yn y seremoni agoriadol cyn crwydro’r maes i weld yr amryw weithgareddau a chyfarfod y trefnwyr a’r ymwelwyr.
Dywedodd Leighton Andrews: “Mae Tafwyl yn ffordd wych o ddathlu ac o hybu’r Gymraeg yn y brifddinas. Rydym yn hynod falch o gael cefnogi Menter Caerdydd a Tafwyl gyda grant o £20,000 eleni.
“Mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i bobl gael eu trwytho yn y Gymraeg; ei chlywed yn cael ei defnyddio mewn cymdeithas ac mae’n gyfle iddynt ei defnyddio a’i gweld yn cael ei defnyddio. Dyma un o brif ymrwymiadau ein strategaeth: Iaith Fyw: Iaith Byw.
“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â Tafwyl, ac rwy’n annog trigolion Caerdydd a phobl o thu hwnt i ddod a chael blas ar y digwyddiad diwylliannol unigryw hwn.”
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Dathliad o Gymreictod yw Tafwyl. Mae wedi dod yn o brif ddigwyddiadau’r brifddinas yn ystod yr haf. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim ac mae’n agored i bawb, y siaradwyr Cymraeg, y dysgwyr a’r di-Gymraeg.
“Dyma enghraifft wych o’r gymuned Gymraeg fywiog sydd yn y ddinas. Mae hefyd yn dangos pa mor ganolog yw’r gymuned honno yn y ddinas amlddiwylliannol, wych hon.”
Gwahoddir pobl ledled Cymru, beth bynnag fo’u gallu i siarad y Gymraeg, i ymuno â thrafodaeth genedlaethol am ddyfodol yr iaith sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd, sef - Iaith Fyw: Cyfle i ddweud eich dweud. Am fanylion pellach ar sut i gymryd rhan – boed hynny drwy fforwm ar-lein, yr e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol – ewch i adran yr Iaith Gymraeg ar wefan Llywodraeth Cymru.
Llun: Leighton Andrews