Mwy o Newyddion
Plannwch goed i fynd i'r afael â llifogydd
Mae 357,000 o adeiladau yng Nghymru, sef un o bob chwech, yn awr mewn perygl o lifogydd. Ac mae Coed Cadw wedi lansio deiseb fawr i’r Cynulliad sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i leihau'r risg hon drwy gefnogi plannu o leiaf 10 miliwn o goed dros y 5 mlynedd nesaf, gan greu gwrychoedd, lleiniau o goed a choedlannau bychain wedi eu targedu lle y byddant yn helpu orau amsugno glaw ac arafu dŵr ffo.
Mae'r ddeiseb yn datgan yn glir y byddai’r plannu coed yma yn cyfrif tuag at y targed plannu coed y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod eisoes, sef i blannu 100,000 o hectarau i amsugno C02 o'r atmosffer.
Fodd bynnag, mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn glir, er eu bod nhw’n mynd yn yn y cyfeiriad iawn, lefel lef y plannu yn llai o lawer na’r 5,000 ha sydd ei angen bob blwyddyn i gwrdd â tharged y Llywodraeth Cymru i greu 100,000 ha o goetir newydd dros ugain mlynedd, i amsugno allyriadau C02. Roedd yr ardal o blannu newydd yng Nghymru yn ystod y tymor plannu diwethaf 900 ha yn unig, i fyny o 800 ha y flwyddyn cynt.
Bydd gwirfoddolwyr Cadw Coed yn casglu llofnodion mewn sioeau a digwyddiadau trwy’r haf a'r hydref, fel Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. A gellir llofnodi’r ddeiseb a ar-lein wrth www.woodlandtrust.org.uk/llifogydd
Un person sydd wedi llofnodi'r ddeiseb eisoes yw Mike Goosey, sy’n ymgynghorydd ymchwil annibynnol mewn bio-ynni ac sy’n bwy yn Wrddymbre ger Wrecsam. Mae Mike nid yn unig yn siarad am blannu coed, mae o wrthi’n gwneud hefyd. Fe blannoed 3,000 o goed ar ei dir ei hun yn ddiweddar.
Mae'n dweud: "Rwy'n llofnodi'r ddeiseb gan fy mod yn llwyr gefnogi amcan Coed Cadw i gynyddu’r arwynebedd o goed a gwrychoedd sydd wedi cael eu colli ers yr Ail Ryfel Byd. Rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr i blannu coed i leihau perygl llifogydd. Mae mwy o bwysau heddiw i adeiladu tai. Mae plannu coed yn ffordd wych i sefydlogi'r tir a lleihau'r perygl o lifogydd. Rwyf wedi plannu coed am fy mod i eisiau creu amgylchedd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt. Y peth gorau yw gwylio nhw’n tyfu! "
Gall yr amgylchedd naturiol a choed yn benodol chwarae rhan fawr wrth helpu i amsugno dŵr ffo o wyneb y ddaear. Trwy wneud hyn fe allan nhw leihau llifogydd. Ar gyfartaledd fe all coetir llydanddail amsugno dwr ffo 67 gwaith yn fwy effeithiol na glaswelltir sydd wedi ei wella ac sy’n cael ei bori.
Mae'r data gwyddonol a gasglwyd yng nghynllun Pontbren ym Mhowys wedi dangos yn glir bod lleiniau cysgodol cul o goed, wedi eu plannu mewn dull strategol ac wedi eu ffensio, ar draws llethrau’r bryniau, yn dal dŵr ffo o'r borfa uwchlaw ac yn ac yn ei helpu i gael ei amsugno i’r pridd yn gyflymach.
Yng Nghymru yn unig y mae’r Llywodraeth eisoes yn gwario oddeutu £44,000,000 bob blwyddyn i wella ac ehangu rhwydwaith o 2,900km o amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae disgwyl i’r gost yma dreblu i £135,000,000 erbyn 2035 i ymdopi â risgiau ddefnydd tir anghynaladwy a newid yr hinsawdd.
Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi plannu 10 miliwn o goed dros bum mlynedd lle y byddant yn gwneud y cyfraniad gorau i amsugno glaw ac i arafu dŵr ffo. Fe ellid cyflawni hyn ar ddim ond rhyw 1,000 hectar o dir, sef canfed ran o darged presennol Llywodraeth Cymru. Fe fyddai hyn yn cyfrif tuag at y targed hwn, fodd bynnag, tra’n lleihau’r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi ledled Cymru.