Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2013

Tafwyl - Disgwyl miloedd i'r ŵyl gymunedol fwyaf o'i bath yng Nghymru

Mae disgwyl hyd at ddeng mil o bobl yng Nghastell Caerdydd fory ar gyfer y ffair flynyddol Tafwyl. Dyma'r ail flwyddyn i'r ŵyl gymunedol Gymraeg gael ei chynnal ar dir y castell a mae bellach wedi dod yn rhan allweddol o galendr diwylliannol y brifddinas.

Digwyddiad rhad am ddim i'r teulu cyfan yw Tafwyl yn ddigwyddiad gyda cherddoriaeth, adloniant, sesiynau coginio, gweithgareddau chwaraeon, drama, llenyddiaeth a chrefftau. Mae'r ffair wedi ei anelu at unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymraeg; Cymry Cymraeg, dysgwyr yn ogystal a'r gymuned ac ymwelwyr di-Gymraeg.

Tafwyl yw'r ŵyl gymunedol fwyaf o'i bath i'w chynnal yn unrhyw le yn y wlad a mae'r digwyddiad eleni yn cael ei gefnogi gan grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Ar ôl colli cyllid allweddol yn gynharach eleni mae Menter Caerdydd wedi sicrhau nawdd gan adeiladu partneriaethau gydag ystod eang o fusnesau a sefydliadau i sicrhau bod Tafwyl 2013 yn cael ei chynnal.

Bydd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd,  yn agor yr ŵyl heddiw yn ffurfiol. 

Wrth siarad â chynulleidfa o ffigurau gwleidyddol, busnes a chymunedol, mae disgwyl iddi bwysleisio ei bod yn hanfodol bod y cyhoedd yn ogystal â sectorau preifat yn helpu Tafwyl i dyfu i fod yn ŵyl benwythnos yn 2014 :

"Mae nod Tafwyl yn syml - codi proffil a dathlu yr iaith Gymraeg a'i chymunedau yng Nghaerdydd ac i wneud yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yn rhywbeth y gall pawb ei mwynhau.  Erbyn hyn Caerdydd yw un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda nifer o siaradwyr Cymraeg wedi dyblu ers datganoli. Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn uwch nag erioed ac mae'n gyfrifoldeb arnom ni a chyfrifoldeb pob un o'r rhai sydd mewn awdurdod i  sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chlywed a'i defnyddio mewn bywyd bob dydd ar draws ein prifddinas.  Does dim amheuaeth bod Tafwyl yn dangos rôl y gymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghaerdydd ac mae'n fodd o ddangos i ddysgwyr a siaradwyr di-Gymraeg ei bod yn iaith i bawb beth bynnag bo'u cefndir. "

Mae ffair Tafwyl yn uchafbwynt ar wythnos lawn o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws y brifddinas wedi eu trefnu gan Menter Caerdydd. 

Bydd y dathliadau yn cychwyn am 1100 a pherfformiadau yn rhedeg tan 2100.

Rhannu |