Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mehefin 2013

Y Llywydd yn cefnogi prosiect celfyddydol y gymuned Romani

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn mynd i Arddangosfa'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, SHINE.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, ar 24 Mehefin, a'i fwriad yw ysgogi trafodaethau a chyfranogiad gan y gymuned Sipsi, Roma a Theithwyr; y gymuned ehangach; a'r gymuned gelfyddydol.

Mewn araith yn y lansiad, bydd y Llywydd yn amlinellu sut y gall y prosiect gyflawni'r amcanion ehangach o ddod â chymunedau ynghyd a helpu sefydliadau fel y Cynulliad i ddeall gobeithion a dyheadau cymunedau amrywiol Cymru yn well.

Dywedodd Mrs Butler: “A minnau'n Llywydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy'n falch fy mod yn cynrychioli poblogaeth o amrywiol ddiwylliannau".

“Mae'r Cynulliad yn cynrychioli holl bobl Cymru ac y mae wedi ymrwymo i sicrhau bod y Cynulliad a gwaith Aelodau'r Cynulliad yn agored i bawb.

“Rydym ni'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, nid oherwydd bod rhaid i ni, ond oherwydd rydym ni'n credu mai dyna'r peth iawn.

“Bydd gwrando ar amrywiaeth eang o brofiadau a safbwyntiau yn ein helpu ni i gynrychioli pobl Cymru yn well, gwneud cyfreithiau gwell a sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n rhoi ystyriaeth i gydraddoldeb wrth ei gwaith.

“Rhan o'r broses honno yw cefnogi prosiectau cymunedol fel arddangosfa SHINE. Mae'n dangos sut y gall cynulleidfa priff ffrwd ehangach ddathlu celf a diwylliant gweledol Roma.

"Yn ei hanfod, mae'n cyd-fynd â  neges ehangach y Cynulliad o gynwysoldeb, ac rwyf wrth fy modd yn cynrychioli'r Cynulliad yn y digwyddiad hwn.”

I gael rhagor o fanylion am arddangosfa SHINE, ewch i wefan y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani. http:y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani.

Rhannu |