Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2013

Llwyth o fandiau Cymraeg i ymuno efo’r Manics a Neon Neon yng Ngŵyl Rhif 6

Mae Gŵyl Rhif 6 yn falch i gyhoeddi leinyp difyr a dethol sy’n cynrychioli’r gorau o’r byd canu cyfoes Cymraeg ar lwyfan newydd sy’n dwyn enw pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis.

Yn sgil llwyddiant llwyfan Disg a Dawn llynedd a drefnwyd gan Gruff Rhys ac Andy Votel, mae’r trefnwyr wedi creu Llwyfan Clough i roi lle i artistiaid o Gymru a’r byd i greu o’r newydd beunydd. Ymysg yr artistiaid fydd Geraint Jarman, Bryn Fôn, Bob Delyn, Sen Segur, Yr Ods, Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth, Heather Jones ac R Seiliog heb sôn am lu o fandiau ac artistiaid eraill ac ambell set DJ gan Huw Stephens, John Rostron ac eraill.

Mae’r ŵyl yn falch o gydweithio efo arbenigwyr yn y maes megis Gŵyl Sŵn o Gaerdydd, yr hyrwyddwyr Nyth a threfnwyr Gŵyl Gwydir Llanrwst.

Meddai Huw Stephens a John Rostron ar ran Sŵn: "Mae’n bleser gennym fod yn rhan o ŵyl Rhif 6 eleni i gyflwyno’n dewis ni o artistiaid Cymraeg gwych. Mae Geraint Jarman wedi bod yn ysbrydoli ac yn dylanwadu ar ganu cyfoes yn yng Nghymru ers degawdau, yn fardd, yn arloeswr, yn dorrwr tir newydd. Mae’r Ods wedi canu yng ngŵyl Sŵn droeon, dyma fand o gitarwyr ifanc gyda’r gorau yng Nghymru. Nid yw Cowbois Rhos Botwnnog yn ddim llai na syfrdanol, dyma gerddorion gwych yn y traddodiad gwerin a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru 2012. A dyna un arall o selogion gŵyl Sŵn, Georgia Ruth a hithau wedi rhyddhau un o’n dewis ni o recordiau’r flwyddyn, Week of Pines, gyda chefnogaeth gan Steve Lamacq a Jo Whiley."

Meddai Gwion Schiavone ar ran Gŵyl Gwydir: "Yn ei hanfod mae Gŵyl Gwydir yn gyfle i roi llwyfan i’r gorau o ganu cyfoes Cymraeg ac mae cael cydweithio efo Nyth yng Ngŵyl Rhif 6 yn gyfle cyffrous i ni adeiladau ar hynny – cyfle gwych i gynulleidfa eang gael blas o rym ac athrylith ein canu cyfoes brodorol.”

Meddai Gwyn Eiddior ar ran Nyth: A finnau wedi fy magu o fewn milltir neu ddwy i bentref Portmeirion cefais fy hudo gan y lle a finnau’n blentyn wrth anturio rhwng y tai anhygoel ac ar hyd ei strydoedd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi felly bod NYTH yng Ngŵyl Rhif 6 eleni am y tro cyntaf. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r talentau’r cerddorion gwych y byddwn yn eu cyflwyno ar lwyfan yr ŵyl.

Meddai Robin Llywelyn ar ran Portmeirion: “Mae Gŵyl Rhif 6 yn gorfod bod yn rhan o’r fro a’r ardal y mae’n cael ei chynnal ynddi, ac mae’n hollol naturiol bod diwylliant y fro Gymraeg honno’n cael ei dathlu yn yr ŵyl ac yn cael lle teilwng ar ei llwyfannau.

"Mae hynny’n ei gwneud hi’n ŵyl sy’n rhan hanfodol o fywyd Cymru ac yn ŵyl sy’n perthyn i bawb sy’n byw yma.

"Byddai Clough Williams-Ellis wrth ei fodd yn sôn am feirdd a cherddorion y fro, gwyddai fod talentau anhygoel yma na wyddai’r ymwelydd ddim amdanynt. ‘mae mwy fwrlwm awen o fewn 20 milltir i Bortmeirion nag a geir yn Bloomsbury, Boar’s Hill a Sussex gyda’i gilydd," meddai am draddodiad llenyddol a cherddorol ei filltir sgwâr.

"Mae’r diwylliant hwn a fu unwaith ‘dan yr hatsys’ yn gweld golau dydd yma yng Ngŵyl Rhif 6 o flaen cynulleidfa o bedwar ban byd. Byddai Clough wrth ei fodd i weld yr ŵyl hon yn rhoi’r fath bleser ac ysbrydoliaeth i gynifer o bobl.”

LLWYFAN CLOUGH

Gŵyl Sŵn Festival

Yn Cyflwyno // Presents:

Gwydir a Nyth

Yn Cyflwyno // Presents:

Geraint Jarman

Yr Ods

Cowbois Rhos Botwnnog

Georgia Ruth

Huw Stephens a John Rostron set DJ

 

Finders Keepers 

Yn Cyflwyno // Presents:

David Holmes

Sean Canty (Demdike Stare)

Stuart Maconie's Freakier Zone

Graham Massey's Massonic (yn fyw)

Heather Jones (yn fyw)

Clinic (set DJ)

Andy Votel (ar thema’r Prisoner)

Doug Shipton

Dyl Mei

Emma Tricca (cyflwyniad Eidalaidd)

David Orphan Devon Folklore Tapes

R Seiliog

 

Nyth Gwydir

Yn Cyflwyno // Presents: 

Bryn Fôn

Colorama

Sen Segur

Bob Delyn a'r Ebillion

Gwenno

 

Artistiaid Cymreig eraill yn yr ŵyl / Further Welsh Acts on Line Up

Manic Street Preachers 

Islet

Bright Light Bright Light

Neon Neon

Sweet Baboo

Sam Airey

 

Llun: Geraint Jarman

Rhannu |