Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mehefin 2013

Rhaid i Gymru gael pŵer i hybu’r economi

Heddiw mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi galw o’r newydd ar i Lywodraeth y DU ddatganoli cyfrifoldeb dros brosiectau ynni mawr i Gymru, er mwyn hybu’r economi a chreu swyddi.

Daeth y cais hwn gan y Prif Weinidog wrth iddo baratoi i gwrdd ag arweinwyr eraill yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Ngogledd Iwerddon yn nes ymlaen y bore ‘ma gyda Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Dywedodd bod rhaid cael cydraddoldeb rhwng y gwledydd o ran y pwerau i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Er bod rhagolygon gwych ar gyfer buddsoddi mewn ynni carbon isel yng Nghymru, rydym dan anfantais fawr oherwydd polisi ynni cyfredol y DU. Dyna pam rwy’n galw am gael yr un pwerau dros ein hadnoddau ynni â gweddill y DU."

Roedd y Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud rhagor i daclo effeithiau’r prisiau ynni uchel ar fusnesau sy’n defnyddio llawer o ynni yng Nghymru, ac ar deuluoedd sy’n gweithio’n galed dan bwysau ariannol.

Dywedodd: “Mewn gair, nid yw’r farchnad ynni’n gweithio. Mae’r  cynnydd mewn costau ynni yn cael effaith ddifrifol ar fusnesau ar draws Cymru, yn enwedig y rhai hynny sy’n defnyddio llawer o ynni, fel TATA Steel a’r sector petrogemegol. Mae costau ynni uchel yn atal buddsoddwyr rhag mentro ac yn amharu ar ein hymdrechion i ehangu’r sector preifat yng Nghymru a chreu swyddi cynaliadwy.

"Er ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl gyda’u biliau ynni, gan gynnwys buddsoddi’n sylweddol mewn mesurau arbed ynni, mae’r cynnydd mewn biliau ynni yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau cartrefi, sydd eisoes yn dynn. Nid yn unig y mae hyn yn cael effaith ar ansawdd bywyd y teuluoedd hyn – mae hefyd yn amharu ar yr economi am fod gan bobl lai o arian yn eu poced i’w wario ar y stryd fawr.

“Rwy’n benderfynol bod Cymru’n cael cyfle i elwa mwy ar y sector ynni a byddaf hefyd yn galw eto ar Lywodraeth y DU i roi sylw ar frys i’r materion difrifol hyn."

Rhannu |