Mwy o Newyddion
-
Croesawu canfyddiadau'r Cenhedloedd Unedig ar y dreth ar lofftydd
12 Medi 2013Mae llefarydd lles Plaid Cymru, Hywel Williams AS, wedi croesawu canfyddiadau arolygwr tai cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Raquel Rolnik, sydd wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn teithio o amgylch y DU i asesu effaith y treth ar lofftydd ar hawliau dynol . Darllen Mwy -
Cynigion am ysgol newydd yn Lôn-las
12 Medi 2013Mae cynigion i adeiladu ysgol gynradd gwerth miliynau o bunnoedd ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las wedi cael eu dadorchuddio gan Gyngor Abertawe. Darllen Mwy -
Blas o’r UE i fyfyrwyr o Gymru a Latfia
12 Medi 2013Heddiw bydd pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cael blas o’r materion pwysig sy’n effeithio ar yr UE a’r ffordd y mae’n gwneud ei phenderfyniadau, yn ystod Cyngor Ffug yr Undeb Ewropeaidd yng Nghaerdydd. Darllen Mwy -
Galwr diwahoddiad yn cynnig trethi busnes llai am arian
12 Medi 2013Anogir busnesau yn Abertawe i fod yn ofalus ar ôl i rai cwmnïau lleol yn y ddinas gael eu targedu gan alwr diwahoddiad. Darllen Mwy -
Diweithdra yn gostwng eto
12 Medi 2013Mae diweithdra wedi gostwng eto yng Nghymru gan gyrraedd ei lefel isa' mewn blwyddyn. Darllen Mwy -
'Nid Biodanwyddau yw’r ateb'
12 Medi 2013Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi datgan nad yw biodanwyddau yn helpu ymladd newid hinsawdd ond yn hytrach mae’n cael effaith andwyol ar gymunedau tlotaf y byd. Darllen Mwy -
Pryder dros agwedd penaethiaid y BBC at Radio Cymru
12 Medi 2013Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am ddiffyg uchelgais rheolwyr BBC Cymru dros eu gwasanaethau Cymraeg, gan ddweud bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd. Darllen Mwy -
Cynnig ‘Theatr Bryn Terfel’ ar gyfer Pontio
12 Medi 2013Gydag agoriad canolfan celfyddydau ac arloesi Pontio yn hydref 2014, bydd y Brifysgol yn dewis enwau ar gyfer rhannau o’r adeilad. Darllen Mwy -
Prifysgol Aberystwyth ar rhestr fer Gwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education 2013
12 Medi 2013Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer categori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg Gwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education 2013. Darllen Mwy -
Prif Weinidog yn croesawu e-lyfrau Cymraeg ar Amazon
12 Medi 2013Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wrth groesawu’r newyddion fod e-lyfrau Cymraeg ar gael yn awr i’w prynu a’u lawrlwytho oddi siop Kindle Amazon.com: “Mae’r ffaith y gall pobl sy’n berchen ar Kindle lawrlwytho llyfrau Cymraeg yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr ac mae’n dangos awydd y cwmni i ymateb i alw gan gwsmeriaid. Darllen Mwy -
Arolwg o ddefnydd yr iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg
12 Medi 2013Mae Menter Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad o ddefnydd yr iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg. Darllen Mwy -
£240,800 i atgyweirio adeiladau hanesyddol gorau Cymru
12 Medi 2013Mae John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, wedi cyhoeddi y bydd rhai o adeiladau hanesyddol gorau Cymru yn elwa ar gyllid gwerth £240,800. Darllen Mwy -
Project myfyriwr yn dangos ei bod yn ddiogel bwyta mwyar duon ar ochrau ffyrdd
12 Medi 2013Mae’n adeg o’r flwyddyn pan fydd llawer o bobl yn hel ffrwythau, fel mwyar duon, ar ochrau ffyrdd. Fodd bynnag, mae rhai'n pryderu y gall ffrwythau meddal sy'n tyfu ar ochrau ffyrdd gynnwys lefelau uchel o fetelau trwm o ganlyniad o ollyngiadau o gerbydau. Darllen Mwy -
Pwyso am gadoediad
30 Awst 2013Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi cadarnhau na fydd y Deyrnas Unedig yn ymuno ag unrhyw ymosodiad ar Syria, wedi i ASau bleidleisio yn erbyn cynnig ei lywodraeth. Darllen Mwy -
Croesawu adroddiad ynglŷn â dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
30 Awst 2013Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi croesawu adroddiad ynglŷn â dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddoe gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol. Darllen Mwy -
Arogl glaswellt wrth iddo gael ei dorri yn allweddol i gynhyrchu llaeth iachach
29 Awst 2013Gallai cynnyrch llaeth gynnwys cyfradd uwch o frasterau iach omega-3 drwy’r flwyddyn, diolch i ddarganfyddiad sydd yn ymddnagos yng nghyfnodolyn y Gymdeithas Microbioleg Gymwysedig, y Journal of Applied Microbiology. Darllen Mwy -
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer arwyr iechyd lleol
29 Awst 2013Mae Gwobrau Staff Gorau Iechyd 2013 Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar agor i geisiadau. Darllen Mwy -
Tipio anghyfreithlon yn annog rhybudd i breswylwyr wirio trwyddedau
29 Awst 2013Mae tipio anghyfreithlon mewn cymuned wledig yn Abertawe wedi rhoi rhybudd i breswylwyr am ddefnyddio cwmnïau tipio heb drwydded. Darllen Mwy -
Cartref newydd i Abertawe ar fap Uwch Gynghrair Dinas Efrog Newydd
29 Awst 2013MAE Abertawe wedi’i leoli yn yr ‘Upper West Side’ yn Ninas Efrog Newydd mewn poster hyrwyddol sy’n rhoi cartref i bob un o dimau’r Uwch Gynghrair yn yr ‘Afal Mawr’. Darllen Mwy -
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhoi rhybudd am Syria
29 Awst 2013Mae un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn galw ar bobl i gysylltu gyda’u Haelod Seneddol lleol ar frys gan ofyn iddo fe neu hi i bleidleisio yn erbyn ymyrraeth filwrol yn y gwrthdaro yn Syria pan fydd y Senedd yn cwrdd heddiw Darllen Mwy