Mwy o Newyddion
Dathlu’r berthynas unigryw rhwng Cymru ac UNESCO
Bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn agor Colocwiwm UNESCO Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw. Bydd yn achub ar y cyfle i annog pobl i archwilio’r berthynas rhwng Cymru ac UNESCO.
Bydd rhwydwaith Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig o lunwyr polisïau, ysgolheigion a chynrychiolwyr y trydydd sector yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad agoriadol hwn i rannu gwybodaeth a phrofiadau o Gymru ac i edrych sut y gall ffyrdd newydd o weithio gydag UNESCO helpu i hoelio sylw’r byd ar y profiad hwn.
Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig sy’n trefnu’r Colocwiwm, ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Dyma’r Colocwiwm cyntaf i’w gynnal yng Nghymru. Bydd y cyflwyniadau a’r trafodaethau yn canolbwyntio ar strategaeth newydd UNESCO, ac yn edrych sut y gall Cymru helpu UNESCO i fod yn fwy effeithiol, a sut y gall gydweithio â’r Sefydliad yn y dyfodol.
Yn ei araith bydd Carwyn Jones yn dweud, “Mae gan Gymru gyfraniad aruthrol o ystyried ei thirwedd unigryw, ei hanes archaeolegol, ei hiaith a’i diwylliant. Mae ein safleoedd treftadaeth yn arwydd o bwysigrwydd ac arwyddocâd rhyngwladol ein hetifeddiaeth gyfoethog ac yn hysbyseb wych i’n gwlad, gan eu bod yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
“Rwy’n gwerthfawrogi ein perthynas ag UNESCO a’r ffaith ein bod yn cydweithredu ar y safleoedd treftadaeth byd, sydd mor eithriadol o bwysig inni. Ond mae’r Colocwiwm yn rhoi cyfle inni drafod cysylltiadau ehangach rhwng Cymru ac UNESCO – a hynny mewn meysydd mor amrywiol â datblygu rhyngwladol, y strategaeth wyddoniaeth, datblygu cynaliadwy ac addysg.”
Dywedodd yr Athro W. John Morgan, Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig, a Chymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae arbenigwyr o Gymru ac uwch-gynrychiolwyr o UNESCO yn dod at ei gilydd er mwyn adnewyddu’r berthynas rhwng UNESCO a Chymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y traddodiad o weithredu rhyngwladol a chydweithio ym meysydd diwylliant, addysg, gwyddoniaeth a datblygu cynaliadwy sy’n bodoli yng Nghymru ers tro byd. Bydd y Colocwiwm yn cryfhau effeithiolrwydd UNESCO, ac mae’n bleser gennym ailgynnau’r berthynas bwysig hon.”
Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr ail adroddiad blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu yn gynharach yn yr wythnos. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at berfformiad Llywodraeth Cymru mewn mwy na 400 o feysydd, ac yn dangos sut y mae’n cyflawni er budd pobl Cymru. Mae perthynas agos rhwng sawl uchelgais sy’n ymddangos yn y Rhaglen Lywodraethu a nodau UNESCO ei hun.
Aeth yn ei flaen i ddweud, “Rwy’n teimlo bod cyswllt rhwng nodau ehangach UNESCO a dyheadau Llywodraethu Cymru. Llywodraeth Cymru yw un o’r llywodraethau prin hynny yn y byd sydd â dyletswydd o ran datblygu cynaliadwy ac sy’n rhoi egwyddor cynaliadwyedd wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud. Mae gennym ein Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ein hunain i hybu’r gwaith yma a chynghori Gweinidogion Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddod yn genedl un blaned o fewn cenhedlaeth, sy’n golygu peidio â defnyddio mwy na’n siâr o adnoddau a llunio Siarter Dyfodol Cynaliadwy, a lofnodwyd gan fwy na 130 o sefydliadau.
“Mae heddiw’n gyfle inni edrych sut y gellir defnyddio’r polisïau, y mentrau a’r rhaglenni hyn, sydd â blas Cymreig pendant, i hybu effeithiolrwydd UNESCO.”
Bydd dros 60 o arbenigwyr yn dod at ei gilydd yn y Colocwiwm i fyfyrio, i rannu syniadau ac i wyntyllu eu barn. Defnyddir yr hyn a ddysgir yn ystod y Colocwiwm fel sail ar gyfer datblygu’r berthynas rhwng Cymru ac UNESCO yn y dyfodol.