Mwy o Newyddion
Cyfleoedd newydd i wirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Gwirfoddoli yr wythnos hon, ac fel rhan o’r gweithgareddau mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cynllun newydd, ‘Yma i Helpu’, sy’n cynnig rhagor o gyfleoedd i wirfoddoli yn y Brifwyl.
Mae’r Eisteddfod yn gweithio gydag asiantaethau fel Canolfan Byd Gwaith er mwyn annog pobl leol yn ardal Sir Ddinbych a’r Cyffiniau i roi o’u hamser i gefnogi a gwirfodddoli er mwyn datblygu sgiliau newydd a derbyn hyfforddiant mewn gofal cwsmer gydag achrediad ar ei ddiwedd.
Medddai Dirprwy Drefnydd yr Eisteddfod, Alwyn Roberts: “Mae mwy i’r cynllun hwn na’r ymgyrchoedd blynyddol sydd gan yr Eisteddfod i annog pobl Cymru i wirfoddoli yn ystod yr wythnos. Ein bwriad yw rhoi profiad gwirioneddol i unrhyw un a ddaw atom fel rhan o’r cynllun ‘Yma i Helpu’, gan gynnig hyfforddiant strwythuredig ac achrediad.
“Rydym yn gweithio gyda sefydliadau fel Canolfan Byd Gwaith a’r gobaith yw y gallwn gynnig cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg sy’n ddi-waith yn nalgylch yr Eisteddfod, a’u helpu i fagu hyder ac i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn ddefnyddiol ym myd gwaith. Mae dros hanner miliwn o bobl Cymru’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli ffurfiol, a rydym yn gwybod bod llawer yn awyddus i gael cyfle i wirfoddoli drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ychydig o gyfleoedd sydd i wirfoddoli mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, felly gobeithio y bydd y cynllun hwn yn Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni’n cael croeso brwd. Rydym hefyd yn parhau gyda’r cynlluniau gwirfoddoli arferol, a rydym yn parhau i chwilio am stiwardiaid i weithredu o amgylch y Maes yn ystod yr wythnos. Mae croeso mawr i unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu gyda ni, naill ai drwy gofrestru ar ein gwefan, drwy anfon ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio’r swyddfa ar 0845 4090 400.”
Bydd y cynllun ‘Yma i Helpu’ yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr arwain teithiau tywys o amgylch y Maes, ymateb i ymholiadau y tu ôl i’r ddesg wybodaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr, rhedeg pwyntiau gwybodaeth a chynghori a chynorthwyo ymwelwyr gyda phob math o bethau.
Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen gofrestru ar gael ar y wefan, www.eisteddfod.org.uk, a’r dyddiad cau i wneud cais yw 30 Mehefin.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.