Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2013

Gwerth Economaidd S4C ddwbl ei chyllideb flynyddol

Mae S4C wedi datgelu bod astudiaeth economaidd wedi dangos bod pob punt y mae’r sianel yn ei wario ar gynnwys yn creu bron i ddwy bunt o werth ychwanegol i economi Cymru.

Yn ôl cwmni Arad sydd wedi cwblhau’r gwaith ymchwil, mae pob £1 o wariant S4C yn y diwydiannau creadigol yn creu effaith economaidd o £1.95 ar y diwydiannau hynny yng Nghymru.

Roedd y gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu gan S4C fel rhan o’r broses o fesur llwyddiant ac effeithlonrwydd y sianel.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, mae’r ymchwil yn dangos bod S4C yn chwarae rôl bwysig yn gyrru gweithgaredd economaidd ymlaen, ac yn cynnal miloedd o swyddi.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae’n glir o’r gwaith ymchwil yma bod gwerth economaidd S4C i Gymru yn sylweddol iawn. Mae’r ffigyrau’n dangos bod gwerth y sianel i’n heconomi bron i ddwbl y swm sy’n cael ei dalu i mewn i S4C o ffynonellau cyhoeddus.

"Roedden ni eisoes yn ymwybodol bod tua dwy fil o swyddi’n cael eu cynnal gan weithgaredd S4C ledled Cymru. Mae’r mwyafrif helaeth o’r rheiny’n swyddi sy’n gwasanaethu’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi’u lleoli ym mhob rhan o Gymru.

"Mae’r ymchwil yma’n dangos pa mor bwysig mae hi wedi bod inni flaenoriaethu gwariant ar gynnwys yn ystod y cyfnod o dorri ariannol, ac mae’n glir bod S4C yn llwyddo i chwyddo gwerth yr arian ry’ ni’n ei dderbyn er mwyn creu buddiannau llawer mwy i economi Cymru gyfan." 

Rhannu |