Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mehefin 2013

Chwaraeon rhwyfo yn prysur ddod yn gamp fawr yng Nghymru

Bydd canwyr gorau’r byd yn dod i Gymru y penwythnos yma (21-23 Mehefin) i gystadlu yng Nghwpan Slalom Canŵio’r Byd yng nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (CIWW).

Dyma’r ail flwyddyn y mae’r gystadleuaeth bwysig hon yn cael ei chynnal yng nghanolfan fwyaf newydd a mwyaf arloesol Cymru.

Gyda 28 o wledydd yn cystadlu, Cyfres Cwpan y Byd yw’r digwyddiad uchaf ei fri ar gyfer chwaraewyr proffesiynol slalom canŵio. Mae hefyd ymhlith y digwyddiadau slalom canŵio mwyaf cyffrous yn y calendr ar gyfer rhwyfwyr a gwylwyr fel ei gilydd.

Yn ogystal â’r lefel elît rhagwelir y bydd tua 750 o blant wedi bod ar y dŵr yn ystod yr wythnos yn rhan o regata ysgolion. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i roi cynnig ar ganŵio a chwaraeon rhwyfo mewn pwll canŵio pwrpasol.

Gan siarad cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths: “Unwaith eto rydyn ni’n cael y cyfle i weld athletwyr o’r radd flaenaf yng Nghymru.

“Bydd pobl sy’n dod i Gwpan y Byd yn gallu gweld enillwyr Medalau Olympaidd Aur ac Arian 2012 Tîm GB wrthi’n cystadlu yn erbyn canŵyr gorau’r byd.

“Gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl, yn hen ac yn ifanc ac o bob gallu, i roi cynnig arni a mynd i’r dŵr.

“Bydd Cwpan Slalom Canŵio’r Byd yn helpu i godi proffil rhyngwladol Cymru gan gyfrannu ar yr un pryd at weledigaeth Llywodraeth Cymru i weld Cymru yn cael ei chydnabod fel cyrchfan nodedig ar gyfer digwyddiadau mawr.

“Mae Canŵio Cymru yn adeiladu cyfoeth o dalent ym maes slalom – mae gennym dros 15% o rwyfwyr yn sgwad GB ar y lefelau oedran priodol – ac mae’r llwyddiant wedi’i hybu gan ddigwyddiadau tebyg i hyn.”

Mae’r gamp wedi’i chydnabod fel y gamp ddŵr sydd wedi tyfu fwyaf am y chweched flwyddyn o’r bron yn 2012 ac mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn y Bala yn denu dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae hefyd tua 120 o glybiau canŵio yng Nghymru gydag ychydig o dan 7000 o aelodau yn perthyn i’r corff Canŵio Cymru.

Mae cronfa arbennig Splash ar gael hefyd i roi cymorth i hybu ymhellach boblogrwydd chwaraeon rhwyfo ac mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i annog mwy o’r cyhoedd i ddefnyddio ein hafonydd, ein llynnoedd a’n cronfeydd.

Mae Splash sy’n cael ei weinyddu ar ran Llywodraeth Cymru gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cefnogi nifer o glybiau canŵio bach lleol drwy ddarparu cyfarpar newydd.

Mae canŵio’n un o’r disgyblaethau sy’n cael eu cynnwys yng Ngemau Cymru. Mae Gemau Cymru, sy’n cael ei drefnu gan yr Urdd ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i athletwyr ifanc yng Nghymru gystadlu ar lefel genedlaethol mewn digwyddiad sy’n cwmpasu nifer o chwaraeon. Eleni, bydd yn cael ei gynnal dros benwythnos 5-7 Gorffennaf 2013 mewn gwahanol leoliadau ar draws Caerdydd.

Rhannu |