Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Mehefin 2013

Croesawu adroddiad a allai newid ffurf a strwythur y ddarpariaeth addysg yng Nghymru er gwell

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi croesawu adroddiad annibynnol pwysig sydd wedi'i gyhoeddi, a allai arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau addysg eu darparu yng Nghymru.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argymhellion Robert Hill o'i adolygiad a oedd yn edrych ar strwythur gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol.

Comisiynwyd yr adolygiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Ionawr 2013. Ei brif nod oedd edrych ar ba mor effeithiol yw'r system bresennol sydd gennym ar gyfer darparu gwasanaethau addysg, ar lefel yr ysgol ac ar lefel yr awdurdod lleol. Roedd hefyd yn fwriad ystyried yr hyn y dylid ei wneud ar lefel yr ysgol, ar lefel yr awdurdod lleol, ac ar y lefel ranbarthol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau gwelliannau i wasanaethau addysg.

Mae'r adolygiad yn canolbwyntio'n benodol ar:

Wella perfformiad ysgolion
Codi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr o bob oedran
Rhoi gwell cefnogaeth a her i ysgolion er mwyn gwella safonau
Datblygu a chryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion, ynghyd ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu
Sicrhau gwerth am arian a bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithiol
Sicrhau cydlyniant, ar sail eglurder ynghylch rolau, a chysylltiadau cryf rhwng pob rhan o'r system addysg, gan gynnwys y ddarpariaeth ôl-16 a'r agenda ehangach ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae adroddiad Robert Hill wedi cyflwyno 85 opsiwn i'w hystyried. Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad yn llawn a bydd yn ymgynghori ar yr opsiynau amrywiol am y deuddeg wythnos nesaf.

Dywedodd Leighton Andrews: "Dwi wedi ei gwneud yn glir iawn fy mod i am godi safonau a lefel perfformiad ym mhob rhan o'r byd addysg. Os ydyn ni i gyflawni'r hyn rydyn ni'n gwybod y mae angen ei wneud i wella ein gwasanaethau addysg, mae'n rhaid inni nid yn unig ganolbwyntio ar ddeilliannau dysgwyr, mae'n rhaid inni hefyd sicrhau cydlyniant rhwng ein sefydliadau a rhagoriaeth y sefydliadau hynny.

"Fe hoffwn i ddiolch i Robert am yr adroddiad cynhwysfawr a thrwyadl hwn. Mae'r opsiynau y mae'n eu rhoi gerbron yn dal sylw rhywun ac mae ganddyn nhw'r potensial i newid ffurf a strwythur y ddarpariaeth addysg yng Nghymru er gwell.

"Mae'n bwysig nawr bod pawb yn cymryd rhan lawn yn ein hymgynghoriad er mwyn ein helpu ni i wneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn cymryd y cam o fod yn system addysg dda i fod yn un wych."

Rhannu |