Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2013

Cymry Caerdydd yn galw ar gyngor Caerdydd i ail-ystyried toriadau

Mae rhai o Gymry Cymraeg mwyaf adnabyddus Caerdydd wedi llofnodi llythyr cyhoeddus at Gyngor Dinas Caerdydd yn mynegi eu pryder am gwtogiadau i wasanaethau Cymraeg ychydig ddyddiau cyn gwyl fawr yn y ddinas.

Ymysg llofnodwyr y llythyr mae Archdderwydd Cymru James Jones (Jim Parc Nest), y cerddor Heather Jones, yr awdures Lowri Haf Cooke, y darlledwr chwaraeon Huw Llywelyn Davies, y cyn-Aelod Cynulliad Owen John Thomas, yr awdur Jon Gower, y troellwr disgiau Gareth Potter, a’r gantores Gwyneth Glyn. Dywed y llythyr: “Mae’n ein gofidio … bod y Cyngor wedi mabwysiadu safbwynt nad yw’n adeiladu ar agweddau cadarnhaol y blynyddoedd diwethaf nac ychwaith yn adlewyrchu barn llawr gwlad tuag at yr Iaith...Gofynnwn felly i Gyngor Caerdydd ail-sefydlu ei grant i Dafwyl a gwrth-droi ei doriadau i Fenter Caerdydd fel bod modd gosod seiliau cadarn i’n hiaith unigryw genedlaethol yn y brifddinas.”

Cydlynwyd y llythyr gan Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd pryder am y toriadau i’r fenter iaith leol ac ansicrwydd dros ddyfodol unig wyl Gymraeg Caerdydd, Tafwyl, sydd yn dechrau ddydd Sadwrn yma (Mehefin 15).  

Dywedodd Euros ap Hywel, Swyddog Maes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Ry’n ni’n falch o’r gefnogaeth a gafwyd gan gymaint o enwogion i’n hymgyrch yn erbyn y toriadau. Mae Cyngor Caerdydd wedi targedu’r Gymraeg, gan ddileu’r grant i’r unig wyl Gymraeg yn y ddinas.  Cafodd Tafwyl ei thrin yn wael gan Gyngor Caerdydd: torrwyd ei chyllideb yn gyfangwbl. Mae angen sicrwydd i’r wyl dros y blynyddoedd i ddod. Mae cyllideb unig fenter Gymraeg y ddinas, Menter Caerdydd, hefyd wedi ei thocio o 10%. Galwn felly ar i Gyngor Caerdydd ail-ystyried y toriadau hyn, a rhoi’r Gymraeg yn ganolog i bopeth y maen nhw’n ei wneud.”

Anfonodd y gell leol lythyr at y Cyng. Huw Thomas, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, nôl ym mis Chwefror, yn holi cwestiynau am y toriadau. Ond er i swyddogion ofyn am ymateb dros 5 gwaith, ni chafwyd ymateb o hyd.  Ychwanegodd: “Mae methiant Huw Thomas i ymateb i lythyr y gell yn dangos nad yw’r Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Os nad yw’n fodlon bod yn ddigon cwrtais i ymateb i lythyrau am y sefyllfa, sut all pobl ymddiried yn y Cyngor?”

Llun: Gwyneth Glyn

Rhannu |