Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mehefin 2013

Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn Dychwelyd yn 2014

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd i Barc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin o ddydd Gwener 20 – dydd Sul 22 Mehefin 2014.

Bydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yn ymuno â Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant fel partner ar gyfer gŵyl 2014. Yn ogystal â chynnal digwyddiadau  tu fewn ac o amgylch Tŷ Newton yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd partneriaeth Cadw yn golygu y bydd Castell mawreddog Dinefwr ar gael i’w ddefnyddio fel llwyfan i ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol yn ystod tridiau’r ŵyl.

Roedd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr a ddigwyddodd am y tro cyntaf ym Mehefin 2012 yn llwyddiant ysgubol gyda dros 2,500 o ymwelwyr yn mentro drwy’r giatiau dros y penwythnos i fwynhau adloniant mewn dros 100 o ddigwyddiadau gydag awduron, beirdd, cerddorion, artistiaid, actorion a digrifwyr. Ymysg uchafbwyntiau’r ŵyl yr oedd yr hanesydd John Davies, y seren roc a’r awdur Julian Cope, y digrifwr Josie Long, y canwr Gruff Rhys a’r awdur o Iwerddon Clare Keegan.

Yr Aelod Seneddol dros Ddinefwr a Gorllewin Caerfyddin, Jonathan Edwards, agorodd yr ŵyl y llynedd, ac mae’n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan yr ŵyl i’w chynnig yn 2014: “Rwy’n falch iawn o fod yn cynrychioli ardal yng Nghymru sydd mor gyfoethog o ran hanes a diwylliant, ac sy’n cynnig ei hun fel cartref naturiol i ddigwyddiadau fel Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld beth fydd arlwy’r ŵyl y flwyddyn nesaf. Bydd yr ŵyl yn cynnig cyfleoedd addysgol unigryw i bobl ifainc, a bydd yn dod a hwb i’r economi lleol.”


Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr: Llun gan Emyr Young

Meddai’r awdur Horatio Clare: “Roeddwn i’n meddwl mai dyma’r awyrgylch gorau o’i fath, y mwyaf cyfoethog a’r difyrraf i mi ddod ar ei draws mewn UNRHYW ŵyl: y plasty, yr hen erddi a’r castell, y tywydd, yr ysbrydion, y gwartheg gwynion a’r gorau o ysgrifennu a pherfformio o Gymru – pa mor lwcus oeddem ni! Rwy’n credu fod pawb oedd yno yn rhan o gychwyn distaw rhywbeth anferthol.”

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Roedd hon yn ŵyl Lenyddiaeth wahanol iawn – ychydig bach o Glastonbury, wedi ei gymysgu ag ychydig o agwedd hamddenol Gorllewin Cymru. Rydym ni wrth ein boddau o gael dychwelyd i Landeilo yn 2014. Yn ogystal â phenwythnos o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan byddwn hefyd yn cynnal rhaglen eang o weithdai addysgol i blant ysgol lleol yn arwain at yr ŵyl.”

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr am yr eildro. Rydym yn awyddus i gefnogi datblygiad Llenyddiaeth Cymru wrth ymestyn i Orllewin Cymru, yn enwedig ei ffocws ar ddigwyddiadau i deuluoedd, ac ar greu a charu llenyddiaeth. Ym mlwyddyn DT100 (canmlwyddiant Dylan Thomas), gall yr ymwelwyr neu drigolion yr ardal brofi lleoliadau, perfformiadau a phrofiadau creadigol eraill i’w hymweliad."

Trefnir Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ŵyl cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
neu ewch i ymweld â gwefan yr ŵyl www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

Rhannu |