Mwy o Newyddion
Penodi pedwar i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bod wedi penodi pedwar darlithydd cyfrwng Cymraeg newydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd Iwan Williams, Llyr Gwyn Lewis, Heledd Iago a Delyth Lloyd Griffiths yn dechrau ar eu gwaith cyn hir ac yn cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn eu priod feysydd pwnc.
Bydd y swyddi ym meysydd Cysylltiadau Cyhoeddus, y Gymraeg, Meddygaeth a Gwaith Cymdeithasol yn cael eu cyllido tan 2017.
Bydd yr unigolion yn ymuno ag wyth darlithydd arall sydd eisoes wedi’u penodi o dan adain Cynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg dros y tair blynedd diwethaf mewn meysydd yn amrywio o’r Biowyddorau i’r Gyfraith.
Bydd Iwan Williams yn ymuno ag Academi Hywel Teifi fel Darlithydd Cysylltiadau Cyhoeddus wedi pum mlynedd yn Bennaeth y Wasg, Cyhoeddiadau ac E-ddemocratiaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Gobaith Iwan yw datblygu darpariaeth heriol fydd yn darparu’r myfyrwyr â sgiliau galwedigaethol fydd yn eu galluogi i fentro i’r byd gwaith yn ddidrafferth.
Hon fydd swydd gyntaf Llyr Gwyn Lewis ac yntau ar fin cwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats. Daeth y bardd ifanc o Gaernarfon i’r brig ddwywaith yn olynol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd yn 2010 a 2011. Mae hefyd yn llais cyfarwydd i nifer fel aelod o fand y Violas a chyflwynydd rhaglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru. Bydd Llyr yn cydlynu modiwlau yn Adran Gymraeg y Brifysgol megis theori dysgu iaith, dwyieithrwydd a chymdeithaseg a chynllunio iaith.
Tasg Heledd Iago fydd cyfrannu at y galw cynyddol am addysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr meddygol yn y Brifysgol. Fel Darlithydd Gwyddorau Meddygol, bydd gofyn iddi gynnal gwaith ymchwil drwy’r Gymraeg yn ogystal â sefydlu sawl modiwl newydd gan gynnwys ‘Meddygaeth, Cymraeg a Chymreictod.’ Gobaith Heledd yw hyrwyddo’r Gymraeg ym maes meddygaeth gan feithrin hyder yn y myfyrwyr i drin a thrafod meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Delyth Lloyd Griffiths sy’n weithwraig gymdeithasol brofiadol yn ymuno â Choleg Gwyddorau Dynol ag Iechyd y Brifysgol fel Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae Delyth yn hen gyfarwydd â’r byd addysg uwch wedi blynyddoedd o ddarlithio ym Mhrifysgol Bangor a chyfnod yn cydlynu cwrs Ôl-radd i weithwyr cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2009-2012. Ei dyletswydd fydd ehangu ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr rhanbarth De-orllewin Cymru yn ogystal â chydweithio’n helaeth gyda phartneriaid awdurdodau lleol.
Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym yn falch iawn o fedru penodi’r pedwar o dan sylw i’w swyddi newydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn edrych ymlaen at weld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei chyfoethogi ar draws sawl disgyblaeth fis Medi. Mae gan yr unigolion hyn brofiad helaeth yn eu priod feysydd a bydd myfyrwyr yn elwa’n fawr o’u harbenigedd dros y pum mlynedd nesaf. Hoffwn groesawu’r darlithwyr yn wresog i’n plith a dymuno’r gorau iddynt wrth ymgartrefu ar gampws y Brifysgol.’’
Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i benodi’r academyddion blaengar hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn croesawu’r cynnydd blynyddol yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Abertawe a’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd trwy waith Academi Hywel Teifi. Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd myfyrwyr nid yn unig yn Abertawe, ond yn genedlaethol hefyd, yn elwa’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg yn y swyddi hyn.”
Llun: Yr Athro Iwan Davies