Mwy o Newyddion
Calendr Natur yn amlygu bywyd gwyllt Bae Abertawe
Mae llamhidyddion yr harbwr, corystlumod a hel-lys ysbigog ymysg yr amrywiaeth cyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion y gall pobl ei ddarganfod ym Mae Abertawe dros y misoedd sydd i ddod.
Mae'r rhywogaethau ymysg nifer sy'n ymddangos yn y calendr natur newydd a grëwyd i roi arweiniad misol i bobl o'r bywyd gwyllt y gellir ei weld yn nhwyni, pyllau d?r, traethau a moroedd yr ardal leol.
Mae Cyngor Abertawe wedi creu taflen galendr maint poced gyda grant Twristiaeth Bywyd Gwyllt gan Groeso Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae morloi llwyd, pïod y môr a mwyar glas ymysg y bywyd gwyllt y gellid ei ddarganfod ym Mae Abertawe ym mis Medi. Ym mis Hydref, mae gan bobl y cyfle i weld adar gan gynnwys cwtiad torchog, cwtiaid llwyd a phibyddion y mawn.
Mae'r calendr natur yn defnyddio allwedd côd lliw sy'n caniatáu i bobl wybod yn union ble y gellir dod o hyd i'r math o rywogaeth.
Meddai Judith Oakley, o Dîm Cadwraeth Natur Cyngor Abertawe, "Mae Bae Abertawe yn genedlaethol nodweddiadol am ei fywyd gwyllt a'i gynefinoedd gyda hanner y traeth wedi ei ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ond nid oes digon o bobl yn sylweddoli'r amrywiaeth cyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid sydd ar gael i'w ddarganfod ar garreg eu drws trwy gydol y flwyddyn. Dyma un o'r rhesymau y mae'r calendr natur wedi'i greu.
"Rydym yn gobeithio y bydd argaeledd y calendr natur yn annog hyd yn oed fwy o bobl i ddechrau darganfod Bae Abertawe eu hunain. Mae archwilio'r arfordir yn weithgaredd hwyl ac addysgol i deuluoedd a phobl o bob oed."
Meddai'r Cynghorydd Sybil Crouch, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gynaladwyedd, "Mae'r calendr natur yn dangos nad oes rhaid i chi deithio'n bell er mwyn dod o hyd i fywyd gwyllt diddorol gan ei fod yma ym Mae Abertawe hefyd. Rydym yn ennill gwobr ar ôl gwobr am harddwch ein golygfeydd ond dylai'r amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid hefyd gael ei ddathlu. Gellir gweld peth o'r bywyd gwyllt sydd yn y calendr drwy gydol y flwyddyn, ond mae gan bob tymor ei uchafbwyntiau. Mae'r calendr yn arweiniad gwych ar beth i'w weld a phryd."
Mae copïau o'r calendr natur bellach ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a Chanolfan Chwaraeon Traeth a D?r 360 ar lan y môr gyferbyn â maes San Helen. Maent hefyd ar gael yn y Canolfannau Croeso yn y Mwmbwls a chanol y ddinas.