Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Awst 2013

Cartref newydd i Abertawe ar fap Uwch Gynghrair Dinas Efrog Newydd

MAE Abertawe wedi’i leoli yn yr ‘Upper West Side’ yn Ninas Efrog Newydd mewn poster hyrwyddol sy’n rhoi cartref i bob un o dimau’r Uwch Gynghrair yn yr ‘Afal Mawr’.

Crëwyd y poster, sydd wedi’i osod mewn safleoedd bws a mannau eraill ar draws y ddinas, gan gwmni darlledu yr UD, NBC Sports, sydd wedi addo dangos cannoedd o gemau’r Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Mae’r posteri, sy’n annog dinasyddion Efrog Newydd i ddewis tîm, wedi rhoi ardal yn yr ‘Afal Mawr’ i bob tîm yn yr Uwch Gynghrair - yn Manhattan, Brooklyn, Queens, y Bronx neu Ynys Staten.

Mae’r Elyrch yn rhannu’r ‘Upper West Side’ gyda Lerpwl, tra bod y pencampwyr, Manchester United, wedi’u lleoli yn yr ‘Upper East Side’ a Dinas Caerdydd wedi’u lleoli yn Brooklyn.

Mae’r ‘Upper West Side’ yn gymdogaeth yn Manhattan rhwng Central Park ac Afon Hudson, a rhwng West 59th Street a West 110th Street. Mae ganddo enw da fel cartref canolfan diwylliannol a deallusol Dinas Efrog Newydd, ac mae Prifysgol byd-enwog Columbia wedi’i leoli ym mhen Gogleddol y gymdogaeth. Mae rhai o’r bobl enwog sydd wedi byw yno yn cynnwys Matt Damon, Robert De Niro ac Al Pacino.

Mae Cyngor Abertawe yn dweud fod yr hyrwyddiad yma eto yn fanteisiol i statws Uwch Gynghrair y ddinas.

Dywedodd y Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Efrog Newydd yw un o ddinasoedd mwyaf, mwyaf bywiog ac enwocaf y byd. Mae rhoi sylw i Abertawe mewn ardaloedd poblog iawn megis Manhattan a bwrdeistrefi eraill yn sylw na allwch ei brynu gan ei fod yn golygu y gall miliynau o bobl gael eu cyflwyno i enw ein dinas am y tro cyntaf erioed. Bydd rhai pobl yn Efrog Newydd eisoes yn ymwybodol o Abertawe o ganlyniad i lwybr Dylan Thomas yno, ond mae’r hyrwyddiad hwn yn dangos ein bod yn ddinas chwaraeon yn ogystal â dinas diwylliant.

“Mae’r syniad o ddinasyddion Efrog Newydd yn dewis tîm yn seiliedig ar fap yn gyffrous gan y gallai olygu y daw Abertawe yn un o’r timau mwyaf poblogaidd yn yr ‘Upper West Side’ cefnog. Gallai hyn greu mwy o ddiddordeb yn ein dinas fel lle i ymweld ag ef mewn cyfnod pan rydym eisoes yn mwynhau sylw na welwyd mo’i debyg o’r blaen mewn rhannau eraill o’r byd megis Sgandinafia a De Corea.

“Mae ymgyrchoedd o’r math hwn yn adeiladu ar bopeth yr ydym yn parhau i’w wneud i wneud yn fawr o statws yr Uwch Gynghrair drwy hyrwyddo Bae Abertawe yng nghadarnleoedd pêl-droed y DU.”

Mae rhai o dirnodau enwocaf yr ‘Upper West Side’ yn cynnwys Cylch Columbus, Canolfan Lincoln ac Amgueddfa Hanes Naturiol America, lleoliad y ffilm ‘Night at the Museum’, comedi enwog gyda Ben Stiller yn serennu. Yma mae pencadlys Time Warner hefyd.

Mae lleoliadau timau eraill yr Uwch Gynghrair yn cynnwys Chelsea yn Battery Park a’r ardal ariannol, Sunderland yn y Bronx a Manchester City yn ardal Midtown sy’n cynnwys Times Square.     

Rhannu |