Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Awst 2013

Tipio anghyfreithlon yn annog rhybudd i breswylwyr wirio trwyddedau

Mae tipio anghyfreithlon mewn cymuned wledig yn Abertawe wedi rhoi rhybudd i breswylwyr am ddefnyddio cwmnïau tipio heb drwydded.

Mae Cyngor Abertawe yn annog preswylwyr yn y ddinas i wirio fod gan gwmnïau'r hawl i dipio gwastraff neu gallant wynebu talu dirwyon sylweddol os bydd deunyddiau sy'n cael eu gollwng ar dir cyhoeddus yn cael eu holrhain yn ôl i gyfeiriad y perchennog.

Daw'r cyngor yn dilyn digwyddiad diweddar o dipio anghyfreithlon a oedd yn cynnwys pum sach fawr o wastraff t?, a ollyngwyd yn anghyfreithlon ar ymyl laswellt yn Felindre.

Bydd y Cyngor nawr yn ymchwilio i'r gwastraff a ollyngwyd i geisio darganfod o ble y daeth.

Meddai June Burtonshaw, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Leoedd, "Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i geisio darganfod o ble ddaeth y gwastraff hwn.

"Does dim esgus dros dipio anghyfreithlon gan unigolion neu gan fusnesau sy'n cynnig gwasanaethau gwaredu gwastraff i breswylwyr.

"Rwy'n annog preswylwyr sy'n cyflogi cwmnïau lleol i waredu gwastraff ar eu rhan i wirio bod trwydded gan y cwmnïau hyn. Os oes amheuaeth, gofynnwch i weld eu dogfennau trwydded cyn caniatáu iddynt gymryd eich gwastraff.

"Gall breswylwyr sy'n defnyddio cwmnïau gwaredu heb drwydded dalu dirwyon drud."

Llynedd, derbyniodd y Cyngor 2,700 adroddiad am dipio anghyfreithlon ac roedd rhaid i'r Cyngor weithredu i gael gwared ar y gwastraff.

Ychwanegodd y Cyng. Burtonshaw, "Mae tipio anghyfreithlon yn niweidio ein hamgylchedd lleol ac mae'n ddrud i'w dacluso. Rydym yn gwario dros £2.5 miliwn y flwyddyn yn clirio sbwriel, gan gynnwys tipio anghyfreithlon." 

Rhannu |