Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Medi 2013

Prif Weinidog yn croesawu e-lyfrau Cymraeg ar Amazon

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wrth groesawu’r newyddion fod e-lyfrau Cymraeg ar gael yn awr i’w prynu a’u lawrlwytho oddi siop Kindle Amazon.com: “Mae’r ffaith y gall pobl sy’n berchen ar Kindle lawrlwytho llyfrau Cymraeg yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr ac mae’n dangos awydd y cwmni i ymateb i alw gan gwsmeriaid.

“Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif, mae’n rhaid bod y dechnoleg a’r cyfryngau digidol ar gael yn hawdd yn Gymraeg.

"Am y rheswm hwn felly y gwnaethon ni gais i Amazon ddileu’r gwaharddiad ar e-lyfrau Cymraeg a thrwy hynny sicrhau eu bod ar gael yn yr un modd â llyfrau mewn Basgeg, Galiseg a Chatalaneg."

Roedd Llywodraeth Cymru ynghyd â Chyngor Llyfrau Cymru a’r cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi galw ar Amazon i werthu e-lyfrau Cymraeg ar gyfer Kindle.

Mae hyn yn rhan o ymdrechion y Llywodraeth i alluogi ac annog mwy o bobl i ddefnyddio cyfryngau a thechnoleg ddigidol Cymraeg drwy gysylltu’n uniongyrchol â chwmnïau technolegol mawr megis Google, Apple, Microsoft ac Amazon.

Rhannu |