Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Medi 2013

Arolwg o ddefnydd yr iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg

Mae Menter Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad o ddefnydd yr iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg. Cynhaliwyd arolwg ar ffurf holiadur ar-lein ym mis Gorffennaf, a derbyniwyd cyfanswm o 539 o ymatebion gan drigolion y Fro dros gyfnod o lai na thair wythnos.

Prif bwrpas yr arolwg oedd i fesur y defnydd presennol o’r iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg yn gymdeithasol, ac asesu’r angen sydd am fwy o wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn y Fro.

Mae’r adborth a gasglwyd o’r holiadur hwn yn dangos yn glir bod gwendid yn y ddarpariaeth gymdeithasol cyfrwng Cymraeg ar gynnig ym Mro Morgannwg ar hyn o bryd, a bod galw am gynnydd yn y ddarpariaeth.

I grynhoi rhai o’r canfyddiadau:

• 41.1% o blant mewn addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg ddim yn defnyddio’r Gymraeg o gwbl y tu allan i oriau’r ysgol.

• 82.1% o blant mewn addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg ddim yn mynychu unrhyw glybiau neu

weithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu allan i oriau’r ysgol.

• 62.1% o blant mewn addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg yn mynychu clybiau neu weithgareddau

Saesneg y tu allan i oriau’r ysgol.

• 88.7% eisiau gweld cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gynnig ym Mro Morgannwg.

• 91.7% yn awyddus i weld mwy o weithgareddau cyfrwng Cymraeg i deuluoedd ym Mro Morgannwg.

• 86.6% wedi ateb yr hoffen nhw weld mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i oedolion ym Mro

Morgannwg.

• 31.7% o’r ymatebwyr, sydd wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, ddim yn defnyddio’u Cymraeg o gwbl bellach.

“Mae’n holl bwysig fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn cael cyfleoedd i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg ar lefel gymdeithasol yn eu cymuned er mwyn ffyniant yr Iaith. Ein bwriad nawr fydd cydweithio gyda sefydliadau lleol a Chyngor Y Fro er mwyn sicrhau gwelliant yn y ddarpariaeth Cymraeg sydd ar gynnig,” meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd

Mae copi o’r adroddiad i’w weld ar wefan Menter Caerdydd: http://www.mentercaerdydd.org/cy/page/y-fro

Rhannu |