Mwy o Newyddion
Blas o’r UE i fyfyrwyr o Gymru a Latfia
Heddiw bydd pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cael blas o’r materion pwysig sy’n effeithio ar yr UE a’r ffordd y mae’n gwneud ei phenderfyniadau, yn ystod Cyngor Ffug yr Undeb Ewropeaidd yng Nghaerdydd.
Mae’r myfyrwyr, sydd rhwng 16 ac 18 oed, yn dod o 28 o ysgolion yng Nghymru, a bydd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Jaunpiebalga yn Latfia yn ymuno â nhw.
Bydd yr ysgolion yn cynrychioli’r 28 o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Comisiwn ac Ysgrifenyddiaeth y Cyngor, a byddant yn trafod materion cyfredol sy’n effeithio ar yr UE – ‘ a ddylai’r UE fod yn ffederasiwn o genedl-wladwriaethau’ ac ‘a ddylai derbyn aelodau newydd i’r UE gael ei rewi’.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn, a gynhelir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o raglen ehangach sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o faterion yr UE a’r manteision o fod yn aelod o’r UE.
Bydd Llysgennad Latfia, Ei Ardderchogrwydd Mr Andris Teikmanis, a Mr Andy Taurins, Is-gennad Anrhydeddus Latfia, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Mae gan Lywodraeth Cymru Femorandwm Dealltwriaeth â Latfia, sy’n ceisio cryfhau cyfeillgarwch ac ewyllys da pobl y ddwy wlad drwy gydweithio ar brosiectau fydd o fudd i bawb.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a fydd yn agor y cyfarfod: “Mae’r Cyngor Ffug nid yn unig yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r UE a’r materion pwysig rydyn ni’n eu hwynebu gyda’n gilydd, ond mae hefyd yn rhoi blas i bobl ifanc o sut mae’r UE yn gwneud penderfyniadau. Rwyf wrth fy modd fod myfyrwyr o Latfia, yn ogystal â Llysgennad Latfia a’r Is-gennad Anrhydeddus, yn ymuno â ni - sy’n arwydd o’r cyfeillgarwch sy’n parhau rhwng y ddwy wlad.
“Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo’n llwyr i chwarae rhan bositif a gweithredol o fewn yr UE, gan fod manteision clir i’n haelodaeth; mae Marchnad Sengl yr UE yn cael gwared ar rwystrau masnachu, yn hybu twf ac yn creu swyddi, ac yn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad. Mae cydweithredu rhwng partneriaid yn rhoi mwy o ddylanwad i’r UE ar faterion byd-eang fel mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae Cymru hefyd wedi elwa’n sylweddol o’r cyllid sydd wedi dod o’r Undeb Ewropeaidd.
“Gan fod yr UE yn dyngedfennol i lwyddiant a llewyrch economaidd Cymru yn y dyfodol, mae’n hanfodol fod y DU yn parhau i fod yn aelod. Gobeithio bod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yma heddiw yn gallu cael gwell dealltwriaeth o waith y Cyngor ac rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw heddiw ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.“