Mwy o Newyddion
Diweithdra yn gostwng eto
Mae diweithdra wedi gostwng eto yng Nghymru gan gyrraedd ei lefel isa' mewn blwyddyn.
Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 'na 118,000 yn ddi-waith yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Gorffennaf - sy'n 7,000 yn llai na'r cyfnod blaenorol rhwng mis Chwefror ac Ebrill.
Mae Plaid Cymru yn croesawu unrhyw gwymp mewn diweithdra ond yn rhybuddio bod mwy o bobl allan o waith heddiw nag oedd 12 mis yn ôl, ac y mae hynny’n achos pryder difrifol.
Meddai llefarydd: “Bu Plaid Cymru yn gyson yn tynnu sylw at y ffaith, er bod mynd i’r afael â diweithdra yn bwysig, ei bod yn hanfodol hefyd fod y Llywodraeth yn ystyried tangyflogaeth ac effaith difrifol iawn hyn ar economi Cymru.
“Mae 65,000 o bobl yng Nghymru sydd eisiau gweithio yn llawn-amser ond sydd ond yn medru cael swyddi rhan-amser, ac y mae miloedd mwy sydd wedi gor-gymhwyso am eu swyddi presennol.
“Pobl yw’r rhain allai gyfrannu llawer mwy i’r economi ac sydd eisiau gwneud hynny, ond sy’n cael eu hatal rhag gwneud hynny.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith, gan wneud Cymru yn fwy deniadol i fewnfuddsoddi, gan greu’r amgylchedd iawn hefyd i fusnesau cynhenid dyfu.
“Fe fuasem ni’n creu banc busnes mewn dwylo cyhoeddus, gan beri bod cyllid yn fwy hygyrch i fusnesau, galluogi ehangu a thwf, ac fe fuasem yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddiwydiannau gwyrdd, gan adeiladu ar ein henw da a’n harbenigedd, gan ddatblygu Cymru fel canolfan ragoriaeth yn y sector werdd.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu fel mater o frys ar dangyflogaeth, nid yn unig er lles y sawl sydd wedi eu tangyflogi ond hefyd er lles economi Cymru gyfan.”