Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Medi 2013

Croesawu canfyddiadau'r Cenhedloedd Unedig ar y dreth ar lofftydd

Mae llefarydd lles Plaid Cymru, Hywel Williams AS, wedi croesawu canfyddiadau arolygwr tai cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Raquel Rolnik, sydd wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn teithio o amgylch y DU i asesu effaith y treth ar lofftydd ar hawliau dynol .

Mae Mr Williams a'i gydweithwyr ym Mhlaid Cymru wedi arwain yr ymgyrch yn San Steffan yn erbyn polisi Llywodraeth y DU, tra bod y Blaid Lafur wedi methu dro ar ôl tro i ymrwymo i wrthdroi’r polisi pe baent yn ennill grym ar ôl yr etholiad yn 2015.

Mae Mr Williams wedi dadlau ers y cychwyn mai polisi diffygiol tu hwnt yw’r treth ar lofftydd - yn ymarferol ac  egwyddorol - a dywedodd ei fod yn croesawu canfyddiadau'r Cenhedloedd Unedig sy'n rhoi pwysau pellach i'r dadleuon yn erbyn y polisi - y tro hwn ar lefel gyfreithiol.

Dywedodd Mr Williams: "Mae'r dreth ar lofftydd yn un o'r polisïau mwyaf dinistriol i gael ei dyfeisio gan unrhyw Lywodraeth yn ystod y degawd diwethaf. Mae'n targedu rhai o bobl mwyaf bregus cymdeithas - nifer ohonynt yn anabl, ac mae’n anochel y bydd yn arwain at ddyledion cynyddol a digartrefedd.

“Gall pobl wneud cais i gronfa caledi, ond mae hyn yn arian cyfyngedig ac amser cyfyngedig felly mae’r tlotaf yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am gymorth.

"Roeddwn yn falch o weld y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod y ffaith hon ac yn anfon swyddog i archwilio'r effaith ar hawliau dynol y rhai yr effeithir arnynt. Fodd bynnag, yr wyf yn siomedig na fu ymweliad a dinas Gymreig, er gwaethaf y ffaith y bydd Cymru’n cael ei heffeithio'n anghymesur oherwydd nifer uchel o hawlwyr budd-daliadau.

"Mae Ms Rolnik wedi cadarnhau’r hyn mae Plaid Cymru wedi ei ofni ers y cychwyn - bod y dreth ar lofftydd yn cael effaith “brawychus” ar bobl sydd eisoes yn cael trafferth gyda bywyd bob dydd - ac rwy’n croesawu’r ffaith ei bod yn argymell dileu'r polisi hwn ar unwaith.

"Mae hi hefyd yn tynnu sylw at fethiant Llywodraeth y DU i asesu'r effaith ar fywydau cyn rhoi’r polisi ar waith. Mae hyn yn anffodus yn dangos nad oes gan y Glymblaid diddordeb mewn amcangyfrif cost ddynol y polisi hwn – camgymeriad difrifol sydd eisoes wedi profi’n drychinebus.

"Mae'r DU yn un o lofnodwyr y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Mae hyn yn golygu y dylai canfyddiadau Ms Rolnik gario pwysau o fewn system gyfiawnder Prydain ac annog y Llywodraeth i roi'r gorau i’r polisi.

"Byddaf yn ysgrifennu at y Prif Weinidog ar unwaith i gael sicrwydd y bydd yn cymryd sylw o ddeddfwriaeth ryngwladol a gweithredu ar unwaith i liniaru effaith y dreth ar lofftydd."

Rhannu |